‘Heriau sylweddol’: Cadw bwrdd iechyd y gogledd dan fesurau arbennig
Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi cael gwybod y bydd yn parhau o dan fesurau arbennig wrth i “heriau sylweddol barhau” yno.
Mewn adroddiad dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer, bod Llywodraeth Cymru yn credu fod gan y bwrdd iechyd “amseroedd aros hiraf Cymru”.
Bydd yr adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r bwrdd ddydd Iau yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd “i gadarnhau na fydd unrhyw newid” yn ei statws.
“Mae gwelliant cyson a mesuradwy wedi'i wneud ar draws meysydd allweddol gan gynnwys arweinyddiaeth, llywodraethu, ansawdd clinigol, a rheolaeth ariannol dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Carol Shillabeer yn ei hadroddiad, gan gyfeirio at gyngor Llywodraeth Cymru.
“Ond mae heriau sylweddol yn parhau - yn enwedig mewn gofal wedi'i gynllunio a brys ac argyfwng, a fydd angen ffocws ychwanegol yn ystod y misoedd nesaf.
“Eleni, y ffocws yw lleihau nifer yr arosiadau hir a maint cyffredinol y rhestr aros - gan eu cael yn ôl i lefelau cyn y pandemig - a mynd i'r afael ag apwyntiadau cleifion allanol yn yr arbenigeddau mwyaf heriol, yn ogystal â chymryd camau i wella amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal brys ac argyfwng.
“Mae hyn yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd gan fod ganddo'r gyfran fwyaf o bell ffordd, a'r amseroedd aros hiraf, yng Nghymru.”
Mae gan y bwrdd iechyd fwy na 19,000 o staff ac mae'n gwasanaethu mwy na 700,000 o gleifion mewn ysbytai ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ac mae'n rheoli cyllideb o £1.87 biliwn.
Mae’r adroddiad yn cynnwys llythyr at Carol Shillabeer, gan Brif Swyddog Gweithredol GIG Cymru, Judith Paget CBE yn cadarnhau y byddai'r bwrdd yn parhau o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru.
“Rwy'n ysgrifennu atoch i gadarnhau, yn dilyn asesiad diweddar, y bydd statws uwchgyfeirio eich sefydliad yn aros yr un fath ar lefel 5 (mesurau arbennig),” meddai.
“Byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol i fonitro cynnydd yn erbyn y fframwaith mesurau arbennig a'r meini prawf y cytunwyd arnynt.”