Jac Morgan ar y fainc unwaith eto ar gyfer trydedd gêm brawf y Llewod

Jac Morgan

Mae capten Cymru Jac Morgan wedi ei ddewis ar y fainc unwaith eto ar gyfer trydedd gêm brawf y Llewod yn erbyn Awstralia.

Mae Prif Hyfforddwr y Llewod Andy Farrell wedi gwneud dau newid yn unig i'w dîm ar gyfer y gêm olaf yn erbyn y Wallabies yn Sydney ddydd Sadwrn.

Mae Blair Kinghorn yn cymryd lle James Lowe ar yr asgell chwith ac mae James Ryan yn dod i mewn yn lle Ollie Chessum yn safle'r clo.

Nid yw Joe McCarthy yn y garfan ac nid yw Mack Hansen chwaith. Roedd disgwyl i'r ddau chwarae ond maen nhw wedi bod yn cael trafferth gydag anafiadau.

Dywedodd Andy Farrell: “Rydym wedi rhoi ein hunain mewn lle arbennig i orffen y daith gyda’n perfformiad gorau hyd yn hyn a chreu ein darn ein hunain o hanes.

“Roedd gêm Brawf y penwythnos diwethaf ym Melbourne yn anhygoel ac yn dangos pa mor arbennig yw Teithiau’r Llewod a’r hyn maen nhw’n ei olygu i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.”

Dadlau am Jac

Mae’r unig Gymro yn y garfan wedi ei ddewis unwaith eto ar ôl chwarae rhan amlwg yn yr ail gêm brawf ym Melbourne.

Roedd dadlau am ymdrech capten Cymru i ddisodli un o chwaraewyr Awstralia, Carlo Tizzano o ryc yn eiliadau olaf y gem cyn i Hugo Keenan sgorio cais olaf i ennill y gyfres i’r Llewod.

Roedd hyfforddwr Awstralia, Joe Schmidt, wedi dadlau bod Jac Morgan wedi torri rheolau y gêm drwy ddisodli Carlo Tizzano heb ei rwymo mewn tacl. 

Roedd hefyd yn honni y dylid bod wedi cosbi’r Llewod oherwydd bod Jac Morgan wedi taclo chwaraewr Awstralia uwchben ei ysgwyddau.

"Mae chwaraewyr yn gwneud camgymeriadau, mae swyddogion gemau yn gwneud camgymeriadau,” meddai.

“Ein safbwynt ni yw ein bod ni'n teimlo nad oedd y penderfyniad yn cyfateb i'r ymdrech fawr i ddiogelu chwaraewyr."

Mae eraill gan gynnwys y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens wedi dadlau bod tacl Jac Morgan yn un “berffaith”.

"Rwy'n gwybod bod rhai pobl yn Awstralia yn dyfynnu'r gyfraith ac yn dweud ei fod yn mynd i mewn yn isel," meddai Owens.

"Ond os ydych chi'n dyfynnu'r gyfraith mae'n rhaid i chi gydnabod bod y ddau chwaraewr yn isel wrth ddod i mewn i'r ryc."

Tîm y Llewod

15. Hugo Keenan (Leinster/Iwerddon)

14. Tommy Freeman (Northampton Saints/Lloegr)

13. Huw Jones (Glasgow Warriors/Yr Alban)

12. Bundee Aki (Connacht/Iwerddon)

11. Blair Kinghorn (Toulouse/Yr Alban)

10. Finn Russell (Bath/Yr Alban)

9. Jamison Gibson-Park (Leinster/Iwerddon)

1. Andrew Porter (Leinster/Iwerddon)

2. Dan Sheehan (Leinster/Iwerddon)

3. Tadhg Furlong (Leinster/Iwerddon)

4. Maro Itoje (Saracens/Lloegr) (C)

5. James Ryan (Leinster/Iwerddon)

6. Tadhg Beirne (Munster/Iwerddon)

7. Tom Curry (Sale Sharks/Lloegr)

8. Jack Conan (Leinster/Iwerddon)

Eilyddion:

16. Ronan Kelleher (Leinster/Iwerddon)

17. Ellis Genge (Bristol Bears/Lloegr)

18. Will Stuart (Bath/Lloegr)

19. Ollie Chessum (Leicester Tigers/Lloegr)

20. Jac Morgan (Y Gweilch/Cymru)

21. Ben Earl (Saracens/Lloegr)

22. Alex Mitchell (Northampton Saints/Lloegr)

23. Owen Farrell (Saracens/Lloegr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.