
Colli 'misoedd o waith paratoi' ar ôl canslo cyngerdd yn Eisteddfod Llangollen
Mae cyfarwyddwr côr wedi dweud bod "misoedd o baratoi" i blant o bob cwr o'r byd wedi ei golli o ganlyniad i ganslo cyngerdd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Cafodd sawl plentyn eu cludo i’r ysbyty nos Fercher wedi nifer o "achosion tebyg i ffliw" yn yr Eisteddfod. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw wedi cael gadael yr ysbyty fore dydd Iau.
Yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd "digwyddiad meddygol eithriadol" ei gyhoeddi gan y gwasanaeth ambiwlans a bu’n rhaid canslo cyngerdd Karl Jenkins yn yr eisteddfod nos Fercher.
Roedd cyngerdd Uno’r Cenhedloedd: Un Byd wedi ei drefnu ar gyfer nos Fercher i nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig.
Roedd côr Peace Child International, sydd â thua 80 o aelodau o Brydain, Ffrainc, Rwsia, yr Unol Daleithiau a China, wedi teithio i Gymru i berfformio gyda Syr Karl Jenkins a’i gerddorfa.
Ond gydag awr tan ddechrau’r sioe, cafodd y perfformwyr wybod na fyddai’r sioe yn mynd yn ei blaen.
Dywedodd David Woolcombe, cyfarwyddwr côr Peace Child International, wrth Newyddion S4C: “Mae fy meddyliau’n mynd allan at y bobl a oedd wedi mynd yn sâl.
"Ond hefyd mae fy meddyliau’n mynd allan at y bobl ifanc a dreuliodd fisoedd yn paratoi i berfformio neithiwr, a dim ond un cyfle oedd ganddyn nhw, a chafodd ei dynnu oddi wrthyn nhw ar y funud olaf. Roedden nhw’n wych.
“Roedd rhai ohonyn nhw wedi dod o Hong Kong, yr Unol Daleithiau, Moscow i berfformio, ac mae’r cyfle hwnnw wedi’i dynnu oddi wrthyn nhw. Felly mae fy meddyliau gyda nhw, yn bennaf, ond hefyd, gyda’r Eisteddfod.
“Dydw i ddim yn gwybod beth oedd y trefniadau ariannol yn union, ond roeddwn i’n gwybod ein bod ni wedi colli degau o filoedd o bunnoedd ac nid yw hynny’n ddefnyddiol i sefydliad bach.
"Mae’n fuddsoddiad enfawr.”

'Dilyn cyngor'
Dywedodd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen nos Fercher eu bod nhw wedi dilyn cyngor Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ohirio'r perfformiad.
"Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cymryd diogelwch ei chynulleidfa, cystadleuwyr, perfformwyr a gwirfoddolwyr o ddifrif," meddai datganiad.
"Felly, yn dilyn cyngor - bu'n rhaid i ni ganslo digwyddiad yn y modd hwn am y tro cyntaf yn ein hanes."
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn falch o adrodd bod ein safle wedi'i glirio i ailagor yfory am 9:00, wrth i ni barhau i groesawu'r byd i Gymru.
"Hoffem ddiolch i'n staff, staff meddygol a'n gwirfoddolwyr am eu hymateb cyflym heno."
Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd yr ymwelwyr ag Eglwys Ryngwladol Llangollen a gafodd eu hasesu yn yr ysbyty neithiwr yn cael eu rhyddhau y bore yma.
"Mae profion a gynhaliwyd ar y plant hyn wedi dangos presenoldeb firysau anadlol cyffredin, gan gynnwys y ffliw," meddai.
"Maent yn cael eu trin yn briodol ac yn gwella. Mae'r risg i'r cyhoedd yn parhau'n isel”.
'Sioc'
Dywedodd un o unawdwyr côr Peace Child International, Korina Kolitinova, nad oedd unrhyw o’i chyd-aelodau wedi eu heffeithio gan y salwch.
“Roedden ni’n aros am y gwiriad sain (sound check), awr cyn y sioe," meddai.
“Roedd pawb yn hollol rwystredig ac mewn sioc – doeddwn ni ddim yn gallu credu'r peth.
"Oherwydd roedd y gynulleidfa’n gwybod o’n blaenau fod y cyngerdd wedi’i ganslo, achos bod nhw wedi clywed cyhoeddiad ar y radio.
"Ond doedden ni ddim yn gwybod hynny y tu mewn i’r pafiliwn. Cawson ni wybod ychydig yn hwyrach na’r gynulleidfa.”
Fe ychwanegodd Mr Woolcombe: “Dydw i erioed wedi cael cyngerdd wedi'i ganslo fel 'na awr cyn codi'r llen. Roedd yn gwbl ddinistriol.
“Roedd yn benderfyniad anodd iawn iddyn nhw, oherwydd yn amlwg roedd nerfusrwydd aruthrol pan aeth wyth o bobl yn sâl yn sydyn iawn gyda'r hyn a oedd yn ymddangos fel haint firol eithaf difrifol.
“Yr ymateb naturiol yw gwagio'r safle, sef yr hyn a wnaethon nhw, ac roedd hynny'n golygu bod rhaid canslo'r cyngerdd.
"Byddai mynd yn erbyn hynny wedi bod yn ddewr i'r pwynt o ffolineb, ond byddai cynhyrchwyr eraill wedi mynd ymlaen gyda'r sioe oherwydd y golled ariannol o beidio â mynd ymlaen.
“Roedd yn stori hynod o deimladwy am sut mae pobl ifanc yn dod â heddwch i'n byd - a byd sydd ddim mewn heddwch o gwbl ar hyn o bryd. A dyna'r neges y dylai 2,500 o bobl yn Llangollen fod wedi'i chlywed neithiwr."
'Trychineb'
Ni fyddai'r digwyddiad yn ei atal rhag perfformio yn yr wŷl yn y dyfodol, meddai Mr Woolcombe.
"Mae Eisteddfod yn unigryw yn ei neges o greu heddwch drwy gerddoriaeth, ac mae honno'n neges y mae angen ei floeddio mor uchel â phosib ym mhobman," meddai.
"Rwy'n edrych ymlaen at siarad â fy ffrindiau yn Llangollen am yr hyn y gallwn ei achub o drychineb neithiwr, oherwydd rwy'n credu ei bod yn dristwch aruthrol eu bod wedi gorfod canslo cyngerdd mor fawreddog yn y flwyddyn pen-blwydd yn 80 oed hon, yn bennaf oherwydd bod Syr Karl Jenkins wedi bod yno.
"Mae'n drasig, a dwi'n edrych ymlaen i weld sut maen nhw'n ymateb i neithiwr a sut y gwnaethon nhw geisio ailadeiladu i ledaenu neges heddwch hyd yn oed yn fwy pwerus yn y dyfodol. Ac yn amlwg, byddwn i yno i'w helpu, pe byddent yn gofyn i mi.
"Ond mae'n anodd gwella o rywbeth mor drychinebus â chanslo neithiwr fel ei bod hi'n mynd i gymryd peth amser i'r llwch setlo, a phobl godi ar eu traed eto."