Canslo cyngerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar gyngor meddygol wedi nifer o 'achosion tebyg i ffliw'
Mae trefnwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi gorfod canslo cyngerdd Karl Jenkins yno nos Fercher, a hynny o ganlyniad i 'ddigwyddiad meddygol eithriadol' gafodd ei ddatgan gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r digwyddiad yn ymwneud ag "achos tebyg i ffliw" ac yn gysylltiedig â nifer o bobl â symptomau tebyg meddai'r trefnwyr mewn datganiad.
"Galwyd y digwyddiad eithriadol gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru oherwydd nifer y bobl a ddaeth yn sâl ar un adeg.
"Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cymryd diogelwch ei chynulleidfa, cystadleuwyr, perfformwyr a gwirfoddolwyr o ddifrif.
"Felly, yn dilyn cyngor - bu'n rhaid i ni ganslo digwyddiad yn y modd hwn am y tro cyntaf yn ein hanes."
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn falch o adrodd bod ein safle wedi'i glirio i ailagor yfory am 9:00, wrth i ni barhau i groesawu'r byd i Gymru.
"Hoffem ddiolch i'n staff, staff meddygol a'n gwirfoddolwyr am eu hymateb cyflym heno."
Roedd cyngerdd Uno’r Cenhedloedd: Un Byd wedi ei drefnu i nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig.
Roedd i fod i ddod â lleisiau "o bob rhan o’r byd at ei gilydd i ddathlu pŵer cerddoriaeth wrth hyrwyddo heddwch, cydraddoldeb, ac urddas dynol".