‘Annog pobl ifanc i adael Cymru i fynd i brifysgolion yn tanseilio’r Gymraeg’

Prifysgol

Mae un o gynlluniau Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi pobl ifanc i adael Cymru i fynd i brifysgol os ydyn nhw am wneud hynny yn tanseilio’r Gymraeg yn ôl un mudiad.

Dywedodd Dyfodol i’r Iaith bod Academi Seren Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi’n anoddach i ddatblygu to o athrawon a gweithwyr sector cyhoeddus sy’n gallu gweithio trwy’r Gymraeg.

Nod Academi Seren yw “helpu dysgwyr mwyaf galluog Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chefnogi eu llwybr addysg i brifysgolion blaenllaw yn y DU a thramor”.

Mae’n cynnig cyngor, digwyddiadau a dyddiau agored er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n rhagori yn eu canlyniadau TGAU i gyrraedd y sefydliadau addysg uwch o’u dewis. 

Ond mae Dyfodol i’r Iaith wedi cysylltu â Ysgrifennydd Addysg Cymru i ofyn am arallgyfeirio adnoddau Academi Seren i ganolbwyntio ar gael rhagor o ddisgyblion Cymru o gefndiroedd difreintiedig i fynychu prifysgolion yng Nghymru.

Wrth ymateb i Dyfodol i’r Iaith dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, eu bod nhw wedi “ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru i ddewis astudio mewn lleoliad o’u dewis”.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru ym mhle bynnag y maen nhw’n dewis astudio ac yn cefnogi hawl pob myfyriwr i gymryd penderfyniadau personol am ble maen nhw eisiau astudio,” meddai.

Roedd hynny’n cynnwys myfyrwyr oedd yn dymuno astudio yng Nghymru a drwy’r Gymraeg, meddai.

Mewn llythyr at Dyfodol i’r Iaith ychwanegodd: “Mae Academi Seren wedi ymrwymo'n llwyr i strategaeth Gweinidogion Cymru i gynyddu’r niferoedd sy’n siarad Cymraeg a’r defnydd a wnaed o’n hiaith.”

Wrth ymateb dywedodd mudiad Dyfodol i’r Iaith y dylai’r llywodraeth weithredu polisïau i gynyddu’r niferoedd cyffredinol o fyfyrwyr sy’n mynd i brifysgol, gyda ffocws arbennig ar gefnogi pobl ifanc o gartrefi difreintiedig.

“Oni ddylai’r Llywodraeth annog myfyrwyr i astudio yng Nghymru, yn hytrach na hwyluso’r llif allan o Gymru trwy Academi Seren?” gofynnodd y mudiad.

“Mae’r penderfyniad i barhau â pholisi sydd wedi arwain at golled sylweddol o dalent ac adnoddau dynol yn dangos anwybodaeth o’r effaith gymdeithasol ac economaidd y mae’n ei gael ar ddyfodol y genedl.”

Dylan Bryn Roberts yw Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith, ac mae dan gadeiryddiaeth Heini Gruffudd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.