Bangor: Arestio dyn ar ôl i berson gael ei ddarganfod yn anymwybodol
Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn arall gael ei ddarganfod yn anymwybodol ar Stryd Fawr Bangor.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion oedd ar eu patrôl arferol wedi dod o hyd i ddyn yn anymwybodol ar y Stryd Fawr am 03:00 fore Sul.
Fe gafodd dyn 19 oed ei arestio yn hwyrach ar amheuaeth o ymosod.
Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Roedd y dyn a gafodd ei ddarganfod yn anymwybodol wedi ei gludo i'r ysbyty, ac mae bellach wedi cael gadael.
Dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens bod yr heddlu yn chwilio am dystion i'r digwyddiad.
"Rydw i'n apelio i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â fideo i gysylltu gyda ni," meddai.
"Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad gysylltu gyda ni ar ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 0020211."

