Carcharu hyfforddwr ceffylau rasio am ymosod ar ddyn gyda ffon hoci
Carcharu hyfforddwr ceffylau rasio am ymosod ar ddyn gyda ffon hoci
Mae hyfforddwr ceffylau rasio o Fro Morgannwg wedi cael ei garcharu am dair blynedd am ymosod ar ddyn oedd yn mynd â chi am dro ar ei dir.
Fe wnaeth Richard Evan Rhys Williams, sy'n 55 oed ac yn cael ei adnabod fel Evan Williams, daro Martin Dandridge, 72 oed, sawl gwaith gyda ffon hoci yn ystod yr ymosodiad ym mhentref Llancarfan ar 4 Rhagfyr 2024.
Yn ystod y digwyddiad, dioddefodd Mr Dandridge, o Wiltshire, anafiadau difrifol, gan gynnwys torri ei fraich.
Roedd Williams wedi gwadu'r cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, ond daeth rheithgor i'r casgliad ei fod yn euog o'r drosedd wedi 90 munud o drafod yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mawrth.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Angharad Price wrtho: "Mae hwn yn drosedd erchyll lle ymosodoch chi ar Mr Dandridge gan achosi anafiadau difrifol iddo.
"Rwy’n gwybod eich bod chi’n deall yn llawn ei fod yn dal i fyw gydag effaith eich gweithredoedd ar y diwrnod hwnnw 16 mis yn ôl."
Dywedodd wrth Williams fod ganddo "ddewis" ar y diwrnod hwnnw – wynebu Mr Dandridge ei hun, neu aros i’r heddlu gerllaw ddod.
"Pan roddoch chi dystiolaeth yn yr achos, siaradoch chi’n angerddol iawn am eich ceffylau rasio sy'n bencampwyr a’u diogelwch, siaradoch chi am eu hamddiffyn rhag niwed," meddai. "Siaradoch chi hefyd am amddiffyn eich teulu rhag niwed. Ond ni ddylai’r amddiffyniad hwnnw fod wedi dod ar gost Mr Dandridge."
Disgrifiodd y barnwr ddigwyddiad chwe wythnos cyn yr ymosodiad, lle'r oedd Williams wedi darganfod potswyr ar ei dir ac wedi cael ei fygwth gyda gwn saethu.
"Mae'n rhaid bod y digwyddiad cynharach gyda bygythiadau o drais i chi a’ch cartref wedi bod yn frawychus iawn," ychwanegodd y barnwr.
"Nid yw byth yn dderbyniol cymryd y gyfraith i’ch dwylo eich hun. Bydd y ddedfryd hon yn wers i chi ei bod hi bob amser yn well ffonio’r heddlu os ydych chi’n credu bod trosedd yn cael ei gyflawni."
'Effaith ddofn ar fy mywyd'
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor fod Mr Dandridge a’i wraig wedi bod yn aros mewn bwthyn gwyliau ger canolfan hyfforddi Williams, er mwyn bod yn agos at eu merch yng Nghaerdydd a oedd wedi cael babi yn ddiweddar.
Fe aeth Mr Dandridge â’u ci cockerpoo Gulliver am dro mewn cae a oedd yn rhan o’r stablau, gan osod ffaglau arno’i hun a’r ci gan ei bod yn dywyll.
Fe welodd teulu Williams y goleuadau ar eu tir ac roedden nhw'n credu fod Mr Dandridge yn hela drwy defnyddio goleuadau llachar i ddod o hyd i anifeiliaid.
Chwe wythnos cyn yr ymosodiad ar Mr Dandridge, roedd Williams wedi wynebu tresmaswyr a oedd yn bygwth ei saethu a llosgi ei fferm.
Dywedodd y barnwr fod adroddiad cyn y ddedfryd ar Williams wedi dod i'r casgliad bod ei ymddygiad wedi’i "yrru gan ofn cynyddol, gor-wyliadwriaeth a chamddehongliad o fygythiad" yn dilyn y digwyddiad hwnnw.
Dywedodd David Elias KC, a oedd yn cynrychioli Williams, wrth y llys fod ei ymateb yn sgil "cefndir y digwyddiad blaenorol brawychus hwnnw".
Dywedodd Mr Elias ei fod wedi cael nifer o eirda cymeriad i gefnogi Williams, gyda 500 ohonynt wedi’u derbyn gan ei swyddfa ac eraill wedi’u hanfon yn uniongyrchol at y barnwr.
Roedd y rhain yn cynnwys datganiadau gan ei wraig, Cath Williams, sydd bellach yng ngofal trwydded yr iard.
Ychwanegodd Mr Elias fod y busnes yn debygol o fethu heb Williams wrth y llyw.
"Mae Evan Williams wedi gweithio ar hyd ei oes, mae wedi adeiladu busnes sydd wedi dod yn bwysig iawn i’r gymuned ehangach ym Mro Morganwg," meddai.
"Mae’n ddyn sy’n mynd allan o’i ffordd i helpu pobl ac mae ei staff, ei gyflenwyr a’r bobl leol yn ei gymuned yn ei garu’n fawr.
"Pe bai’r busnes hwnnw’n methu byddai effaith llawer ehangach nid yn unig ar gyflogaeth yn yr ardal honno ond ar lawer o fusnesau eraill yn yr ardal."
Roedd Williams wedi mynnu nad oedd wedi anafu Mr Dandridge, gan honni ei fod wedi cael ei dynnu drosodd ar dir garw gan ei gi a syrthio i mewn i dwll.
Mewn datganiad dioddefwr a gafodd ei ddarllen i'r llys ddydd Mawrth, disgrifiodd Mr Dandridge effaith barhaol yr ymosodiad.
Dywedodd ei fod wedi bod yn "unigolyn iach" o'r blaen a oedd yn mwynhau chwarae golff a gwneud gwaith addurno yn y tŷ.
"Yn anffodus, oherwydd yr ymosodiad a'r hyn sydd wedi dilyn, dydw i ddim yn teimlo fel yr un person ag yr oeddwn o'r blaen," meddai.
Dywedodd Mr Dandridge wrth y llys fod ganddo broblemau parhaol gyda'i fraich a'i law chwith, gyda thasgau bob dydd fel agor jariau a defnyddio offer yn ei adael mewn poen.
Disgrifiodd hefyd effaith ar ei iechyd meddwl, gan ddioddef o orbryder a diffyg cwsg ers yr ymosodiad.
"Nid oes un diwrnod wedi bod ers yr ymosodiad nad wyf wedi meddwl amdano," ychwanegodd.
"Mae'r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw a'i ganlyniadau wedi cael effaith ddofn ar fy mywyd."