Cynlluniau Plaid Cymru ar gyfer addysg uwch yn ‘greulon’ meddai y Democratiaid Rhyddfrydol
Cynlluniau Plaid Cymru ar gyfer addysg uwch yn ‘greulon’ meddai y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, wedi dweud bod cynlluniau Plaid Cymru ar gyfer addysg uwch yn “greulon” wrth lansio maniffesto ei phlaid.
Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw eisiau “sicrhau bod mwy o’r arian sy’n mynd i addysg uwch yn aros yng Nghymru”.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur wedi dweud bod Plaid Cymru yn bwriadu cael gwared â chefnogaeth ariannol i fyfyrwyr sy’n dewis astudio yn Lloegr.
Yn ei haraith wrth lansio ei maniffesto ddydd Mawrth, dywedodd Jane Dodds y bydd yn “rhwystro ymdrechion creulon Plaid Cymru i gael gwared â'r grant costau byw o £1,000 ar gyfer myfyrwyr Cymru sy'n astudio yn Lloegr”.
“I'r rhai sy'n penderfynu mai addysg uwch yw eu llwybr, byddwn yn amddiffyn y system gyllid myfyrwyr gryfaf yn unrhyw le yn y DU,” meddai.
Yn eu maniffesto, dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn bwriadu cynyddu mynediad at addysg uwch i bobl ifanc yng Nghymru.
Wrth ymateb dywedodd Plaid Cymru mai y Democratiaid Rhyddfrydol "greodd y system greulon bresennol" tra mewn clymblaid yn San Steffan ag y dylen nhw "fod ag embaras wrth drafod ffioedd dysgu".
"Dyma'r blaid aeth yn erbyn eu haddewid i godi ffioedd i fyfyrwyr, drwy daflu cannoedd o filoedd o fyfyrwyr ar draws Cymru a Lloegr i mewn i ddegawdau o ddyled," medden nhw.
"Plaid Jane Dodds yw pensaer y system gyllidol gyfredol sydd yn golygu bod ein prifysgolion ar eu gliniau a bod myfyrwyr yn penderfynu peidio mynd i'r brifysgol oherwydd y gost. Nhw greodd y system greulon bresennol sydd yn gweld myfyrwyr yn cael eu gadael i lawr a staff yn colli eu swyddi.
"Bydd Llywodraeth Plaid Cymru o ddifrif am sicrhau fod myfyrwyr yn cael y cyfle i ffynnu, pa bynnag lwybr hoffen nhw gymryd yn eu bywyd, boed hynny'n addysg uwch neu beidio."
Blaenoriaethau
Dywedodd y blaid yn eu maniffesto mai eu blaenoriaethau mewn llywodraeth oedd:
• Diogelu'r GIG, buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, cefnogi gofalwyr di-dâl a dod â'r “argyfwng” yn ein hysbytai i ben.
• Atal annibyniaeth, gan wneud yn siŵr bod Cymru'n “canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig i fywydau beunyddiol pobl”.
• Helpu Cymru i ffynnu, trwy ddiwygio trethi busnes a helpu pobl i fynd yn ôl i'r gwaith.
• Rhoi'r “dechrau gorau i bob plentyn”, gyda gofal plant o safon, am ddim o naw mis, gan roi dewis go iawn i bob rhiant.
• Glanhau ein hafonydd a'n moroedd, diogelu iechyd y cyhoedd, bywyd gwyllt a'n heconomi dwristiaeth.
Dywedodd y blaid eu bod nhw’n “credu fod Cymru’n gryfach ac yn well ei byd o fewn y Deyrnas Unedig, a bod y Deyrnas Unedig yn gryfach ac yn well ei byd gyda Chymru ynddi”.
“Dylai Llywodraeth Cymru ac arian trethdalwyr Cymru ganolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru, nid ar geisio gwahanu oddi wrth weddill y DU,” medden nhw.
“Ni fyddwn yn gwario ceiniog o arian Llywodraeth Cymru ar yr agenda annibyniaeth.”