Atal trwydded safle bwyty pitsa yn Aberteifi ar ôl darganfod gweithwyr anghyfreithlon

Rominos Pizza

Mae trwydded safle bwyty pitsa yn Aberteifi wedi cael ei hatal ar ôl i wyth o weithwyr anghyfreithlon gael eu darganfod yno.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi diddymu trwydded safle bwyty pitsa Rominos yn Aberteifi yn dilyn archwiliad gan dîm gorfodaeth mewnfudo.

Cafodd adolygiad o'r drwydded ei alw gan y Swyddfa Gartref a wnaeth ymweld â'r bwyty yn Sgwâr Finch ar bedwar achlysur gwahanol.

Yn ystod yr ymweliadau, daeth swyddogion y swyddfa o hyd i wyth o weithwyr anghyfreithlon yn cael eu cyflogi gan y busnes.

Cafodd yr adolygiad ei gefnogi gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a wnaeth gynnal archwiliadau diogelwch tân yn y safle. 

Daeth archwiliadau'r gwasanaeth i'r casgliad fod nifer o dor-cyfreithiau difrifol yn erbyn rheoliadau diogelwch tân ar y safle, gan beri "risg sylweddol" i staff, cwsmeriaid, a’r cyhoedd. O ganlyniad, cafodd hysbysiadau gwahardd eu cyhoeddi.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn cefnogi’r adolygiad, gan godi pryderon eu hunain am gydymffurfiaeth a diogelwch y cyhoedd.

Penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu fod diddymu'r drwydded safle yn gam angenrheidiol er mwyn cynnal amcanion trwyddedu, yn enwedig o ran diogelwch y cyhoedd ac atal troseddu ac anhrefn. 

O ganlyniad byddai'n rhaid i’r busnes gau am 23.00, oni bai eu bod yn apelio'n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn croesawu penderfyniad i atal trwydded safle Rominos.

"Mae hyn yn adlewyrchu difrifoldeb y materion a gafodd eu nodi a’r risgiau clir a gafodd eu codi," ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.