'Cyffrous iawn': Fiona o'r Traitors yn ail-afael yn ei Chymraeg

fiona.jpg

Fe fydd Fiona Hughes o gyfres The Traitors yn cael cefnogaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ail-afael yn ei Chymraeg.

Fe gafodd Fiona ei dewis i fod yn fradwr cudd yng nghyfres ddiweddaraf The Traitors, cyn i weddill y cystadleuwyr ddyfalu o gwmpas y 'bwrdd crwn' ei bod hi'n fradwr. 

Yn wreiddiol o Dreforys, Abertawe, fe aeth Fiona i Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, cyn symud ymlaen i ysgol gyfun cyfrwng Saesneg. 

Yn ôl Fiona, nid yw wedi cael llawer o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ers hynny, ond mae hi bellach yn awyddus i ailafael yn yr iaith. 

Fe ddywedodd Fiona fod dysgu'r iaith yn "flaenoriaeth" iddi ar ôl ymddeol. 

Dywedodd Fiona: "Dw i’n caru The Traitors ac roedd ymddangos ar y sioe yn fraint.  Ro’n i mor hapus i gynrychioli Abertawe a Chymru, a dwi’n teimlo’n gyffrous iawn nawr am y cyfle i gryfhau fy Nghymraeg, gyda help y Ganolfan."

Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Gwnaeth Fiona argraff fawr ar gynulleidfa The Traitors, a ’dyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei chefnogi gyda’i Chymraeg.

"Mae’r Ganolfan yn cynnig hyfforddiant Dysgu Cymraeg i gefnogi pawb, lle bynnag maen nhw ar eu taith iaith, gyda darpariaeth hyblyg a chefnogol, sydd ar gael wyneb-yn-wyneb ac yn rhithiol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.