Dyn yn cyfaddef iddo gadw corff ei fam mewn rhewgell am dair blynedd

ITV Cymru
Porthcawl

Mae dyn wedi pledio'n euog i atal claddedigaeth gyfreithlon ei fam wedi i'w chorff gael ei ddarganfod mewn rhewgell. 

Cafodd Christopher Phillips, 60 oed, ei arestio ar ôl i gorff Sylvia Phillips, 89 oed, gael ei ddarganfod mewn tŷ ym Mhorthcawl ar 17 Chwefror.

Cafodd post mortem ei gynnal ond ni chafodd achos marwolaeth ei ddarparu gan bod angen ymchwiliad pellach.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, fe blediodd Phillips yn euog i atal claddedigaeth gyfreithlon rhwng 2 Hydref 2022 a 17 Chwefror eleni.

Y gred yw fod Mrs Phillips wedi marw yn 2023.

Plediodd Phillips hefyd yn euog i ddau gyhuddiad o dwyll, ar ôl methu â datgan i'r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr fod ei fam wedi marw.

Cafodd corff Mrs Phillips ei ddarganfod mewn tŷ ym Mhorthcawl wedi i'r heddlu dderbyn galwad yn pryderu am ei lles.

Mae disgwyl i Phillips gael ei ddedfrydu ar 2 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.