Cyhuddo chwaraewr o ymosod mewn gêm bêl-droed rhwng Porthmadog a Bae Trearddur
Mae chwaraewr pêl-droed wedi ei gyhuddo o ymosod yn dilyn digwyddiad mewn gêm rhwng clybiau Porthmadog a Bae Trearddur ym mis Ionawr.
Mae Thomas Taylor, 36 oed, o Landdona, wedi ei gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol.
Fe fydd yn ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon ar 11 Mai.
Cafodd fideo o'r digwyddiad ei rannu'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol ar y pryd.
Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Yn dilyn cyflwyno ffeil achos i Wasanaeth Erlyn y Goron, mi dderbyniodd swyddogion awdurdodaeth ar gyfer cyhuddo dyn yn gysylltiedig â digwyddiad mewn gêm bêl-droed rhwng CPD Porthmadog a Bae Trearddur ar ddydd Sadwrn, 17 Ionawr.
"Mi gafodd Thomas Taylor, 36 oed, o Landdona, ei gyhuddo ddoe o ymosod sy’n peri niwed corfforol gwirioneddol, ac mi fydd yn ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon ar ddydd Llun, 11 Mai."
Fe ddioddefodd chwaraewr Porthmadog, Danny Brookwell, gyfergyd o ganlyniad i'r ymosodiad honedig.

