Beirniadu 'tawelwch' Eluned Morgan ar ddyfodol Keir Starmer

Eluned Morgan a Keir Starmer

Mae Prif Weinidog Cymru wedi ei beirniadu am ei "thawelwch" ar bwnc dyfodol y Prif Weinidog Keir Starmer wedi i arweinydd Llafur yn yr Alban alw arno i ymddiswyddo. 

Fe wnaeth Anas Sarwar alw ar Keir Starmer i roi'r gorau i'w swydd mewn cynhadledd newyddion brynhawn Llun, ond nid yw Eluned Morgan wedi cynnig sylw cyhoeddus eto.

Gydag Etholiad yr Alban fis Mai, Mr Sarwar yw'r gwleidydd Llafur mwyaf blaenllaw i nodi na ddylai Prif Weinidog y DU barhau yn ei swydd. 

Mae hynny yn ergyd arall i awdurdod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wrth iddo frwydro i barhau yn Rhif 10 Downing Street, yn sgil beirniadaeth am ei benderfyniad i benodi yr Arglwydd Mandelson yn Llysgennad y DU yn America.

Yn y gynhadledd newyddion, dywedodd arweinydd Llafur yr Alban bod sgandal Mandelson yn tynnu oddi ar waith Llafur, a bod angen i hynny ddod i ben. 

Nododd bod angen i'r arweinyddiaeth yn Downing Street newid. 

Wrth ymateb i alwad Anas Sarwar, mynnodd llefarydd ar ran Downing Street na fydd Syr Keir Starmer yn ymddiswyddo.

"Mae ganddo fandad glir bum mlynedd gan bobl Prydain i gyflwyno newid, a dyna y bydd yn ei wneud," meddai'r llefarydd.

'Asgwrn cefn'

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth gyhuddo Eluned Morgan o fod yn "hapus i'r anhrefn barhau" yn sgil y galwadau ar Syr Keir i ymddiswyddo. 

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth gyhuddo Eluned Morgan o fod yn "hapus i'r anhrefn barhau".

"Wrth gwrs, mae'n rhaid i Keir Starmer fynd," meddai. "Mae wedi colli pob awdurdod moesol a'r hunan-ymwybyddiaeth i wneud y peth iawn.

"Mae bellach yn gwestiwn o bryd y bydd aelodau Llafur yn pwyso'r botwm."

Yn y cyfamser Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens wedi dangos ei chefnogaeth tuag at Brif Weinidog y DU. 

"Mae Keir Starmer yn ddyn da gyda gwasanaeth cyhoeddus yn rhedeg trwy ei wythiennau," meddai.

"Fe ddaeth i wleidyddiaeth am y rhesymau cywir."

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Os nad yw Eluned Morgan yn barod i siarad dros Gymru nawr, mae’n codi cwestiynau difrifol a oes gan Lafur Cymru’r asgwrn cefn i sefyll dros Gymru o gwbl. 

"Mae Cymru angen arweinwyr a fydd yn sefyll fyny dros ein gwlad a'n cymunedau, nid rhai sydd yn mynd yn dawel pan ar yr adeg pwysicaf."

Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi cefnogi Syr Keir Starmer gan ddweud fod y rhod yn troi, o dan ei arweinyddiaeth.

'Rhif 10 newydd'

Daw'r datblygiad diweddaraf o'r Alban wedi i gyfarwyddwr cyfathrebu Downing Street, Tim Allan gyhoeddi ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w rôl yn Llywodraeth y DU.

Mewn datganiad fore Llun dywedodd y bydd yn "camu " o'i rôl fel y gallai "tîm Rhif 10 newydd gael ei adeiladu".

"Rwyf yn dymuno pob llwyddiant i'r Prif Weinidog a'i dîm," meddai.

Lai na 14 awr ynghynt, cyhoeddodd pennaeth staff y Prif Weinidog Keir Starmer, Morgan McSweeney, ei fod yn ymddiswyddo yn sgil sgandal Peter Mandelson.

Fe ddywedodd Morgan McSweeney ei fod yn cymryd "cyfrifoldeb llawn" am benodiad Mandelson fel llysgennad Prydain ar gyfer yr Unol Daleithiau.

Mae Syr Keir Starmer wedi ei dweud ei fod yn fodlon brwydro am ei swydd wrth i densiynau barhau i godi y tu mewn i'r blaid Lafur a thu hwnt.  

Yn ddiweddarach ddydd Llun, fe fydd Starmer yn cyfarfod ag ASau Llafur yn breifat yn ystod cyfarfod wythnosol Seneddol Llafur.

Y cefndir

Cafodd Peter Mandelson ei ddiswyddo ym mis Medi'r llynedd yn sgil gwybodaeth newydd am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.

Mae honiadau wedi dod i'r amlwg fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein. Roedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown ar y pryd.

Daw hyn ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddiwedd mis Ionawr.

Ddydd Sul fe ddywedodd McSweeney fod rhoi'r swydd llysgennad i Mandelson wedi  "niweidio ein plaid, ein gwlad ac ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ei hun."

Fe wnaeth Syr Keir Starmer ymateb i ymddiswyddiad ei bennaeth staff trwy ddweud ei fod yn "ddyledus iddo" am ei waith gyda'r blaid Lafur.

Y gred yw bod y Prif Weinidog a Mc Sweeney wedi penderfynu ar y cyd ei bod hi'n amser iddo roi'r gorau i'w swydd.

'Amserlen dynn'

Mae rhai ASau Llafur i'r chwith o'r blaid gan gynnwys Brian Leishman, Ian Byrne a Kim Johnson wedi dweud bod hi'n amser i Starmer hefyd adael rhif 10.

Yn y Times mae dau weinidog yn y Cabinet wedi dweud bod Syr Keir yn "wannach" ac y gallai "gamu o'r neilltu unrhyw funud". Ond yn ôl Rhif 10 dyw hynny yn "bendant ddim yn wir".

Mae penaethiaid undebau hefyd wedi bod yn rhoi pwysau arno i fynd gydag Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Brigadau Tân, Steve Wright yn dweud y dylai ymddiswyddo.

Mynnu bod rhaid iddo fynd hefyd mae'r gwrthbleidiau. 

Ond mae rhai sydd yn agos at Syr Keir Starmer wedi bod yn ei amddiffyn. Dywedodd yr AS  John Slinger mai'r "peth olaf mae'r blaid eisiau yw damcaniaethu am arweinydd newydd".

Dweud bod gan Keir Starmer "amserlen dynn iawn i brofi bod ganddo'r hyn sydd angen i'n harwain ni" wnaeth yr Aelod Seneddol Rachael Maskell wrth siarad ar Radio 4.

Mae Jill Cuthbertson a Vidhya Alakeson wedi eu penodi fel penaethiaid staff dros dro ar ôl i Morgan McSweeney adael ei swydd.

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.