Cwest: Mam o Fôn a fu farw ar yr A55 yn teithio yng nghefn car cyn iddo daro lori

Newyddion S4C
Jennifer Anne Brown.jpg

Roedd dynes a fu farw ar yr A55 fis diwethaf yn teithio yng nghefn car pan darodd i mewn i lori, clywodd cwest.

Cafodd Jennifer Anne Brown, 44 oed o Niwbwrch, ei lladd ar yr A55 fis diwethaf. 

Mae dyn 57 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad. 

Roedd Ms Brown yn teithio mewn Ford Fiesta gwyn ar 29 Ionawr pan fu’r cerbyd mewn gwrthdrawiad â lori ger twnnel Conwy. 

Mi gafodd tri o bobl eraill oedd yn y cerbyd eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond mi gafodd Ms Brown ei lladd yn y fan a’r lle. 

Ddydd Llun, mi gafodd y cwest i’w marwolaeth ei agor a’i ohirio.

Clywodd y gwrandawiad byr yn Neuadd y Sir, Rhuthun, bod Ms Brown wedi bod yn teithio yn sedd gefn y Ford Fiesta. 

Yn dilyn archwiliad post mortem daeth patholegydd i'r casgliad iddi farw o anafiadau niferus. 

Yn gweithio mewn cartref gofal ym Mrynsiencyn, mi gafodd Ms Brown, oedd yn nain, ei disgrifio gan ei chydweithwyr fel person caredig a gofalgar oedd “â gwen i oleuo unrhyw ystafell”.

Yn dilyn y digwyddiad mi gafodd dyn 57 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ac achosi anaf difrifol trwy yrru’n beryglus. 

Mi gafodd ei ryddhau a’r fechnïaeth yn ddiweddarach. 

Mae’r cwest wedi ei ohirio tra bo ymchwiliad yr heddlu yn parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.