Gwahardd menywod trawsryweddol rhag cystadlu fel menywod yn y Gemau Olympaidd

Gemau Olympaidd

Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi cyhoeddi y bydd menywod trawsryweddol yn cael eu gwahardd rhag cystadlu fel menywod o Gemau 2028 ymlaen.

Bydd cymhwysedd ar gyfer unrhyw gategori menywod mewn digwyddiadau Olympaidd bellach yn cael ei gyfyngu i fenywod biolegol, gyda statws athletwr yn cael ei bennu gan broses sgrinio.

Wrth siarad mewn fideo ar y wefan cyfryngau cymdeithasol X, dywedodd llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Kirsty Coventry: “Heddiw, rydym ni, y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, wedi cyhoeddi polisi ar ddiogelu'r categori menywod.

“Rwy’n deall bod hwn yn bwnc sensitif iawn. Fel cyn-athletwr, rwy’n credu’n angerddol yn hawliau pob athletwr Olympaidd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth deg.

“Mae’r polisi rydyn ni wedi’i gyhoeddi yn seiliedig ar wyddoniaeth ac mae wedi cael ei arwain gan arbenigwyr meddygol gyda buddiannau gorau athletwyr wrth ei wraidd. 

"Mae’r dystiolaeth wyddonol yn glir iawn – mae cromosomau gwrywaidd yn rhoi manteision perfformiad mewn chwaraeon sy’n dibynnu ar gryfder, pŵer neu ddygnwch.”

Proses sgrinio

Bydd y broses sgrinio yn profi am y genyn SRY – genyn sydd wedi’i leoli ar y cromosom Y sy’n cychwyn penderfyniad rhyw gwrywaidd – trwy boer, swab boch neu sampl gwaed.

Bydd y polisi newydd yn golygu y bydd y rhan fwyaf o athletwyr sydd â gwahaniaethau mewn datblygiad rhyw hefyd yn cael eu heithrio rhag cystadlu mewn categorïau benywaidd.

Yn flaenorol, roedd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi gadael i gyrff llywodraethu chwaraeon unigol benderfynu ar y pwnc ond mae'r cyhoeddiad hwn yn dod yng nghanol consensws cynyddol, gydag athletau, nofio a beicio i gyd yn gwahardd menywod trawsryweddol yn y rhan fwyaf o achosion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Croesawyd y cyhoeddiad gan World Athletics, gyda llefarydd yn dweud: “Rydym wedi arwain y ffordd o ran amddiffyn chwaraeon menywod dros y degawd diwethaf.

“Mae denu a chadw mwy o ferched a menywod i chwaraeon yn gofyn am faes chwarae teg a chyfartal lle nad oes nenfwd biolegol. 

"Mae hyn yn golygu na all rhywedd drechu bioleg. Rhaid i ddull cyson ar draws pob chwaraeon fod yn beth da.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.