Ymchwiliad cyhoeddus i greu parc cenedlaethol yn y gogledd ddwyrain

Parc Glyndwr

Fe fydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn edrych at greu Parc Cenedlaethol newydd ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r cynnig i greu Parc Cenedlaethol Glyndŵr wedi hollti barn yn lleol, gyda chyngorhau Sir Ddinbych, Wrecsam a Powys yn pleidleisio o blaid gwrthwynebu’r datblygiad.

Yn dilyn ymgynghoriad statudol y llynedd, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wneud Gorchymyn Dynodi ar gyfer y parc, gan gadarnhau addasrwydd yr ardal ddynodedig ar gyfer statws parc cenedlaethol.

Roedd hyn ar ôl tair mlynedd o gasglu data, cynnal gwerthusiadau ac ymgysylltu â’r cyhoedd, er mwyn asesu addasrwydd yr ardal ar gyfer parc o’r math.

Ond mewn cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, bod y Llywodraeth wedi penodi corff Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i gynnal ymchwiliad cyhoeddus, “i ystyried y sylwadau a'r gwrthwynebiadau lleol a wnaed mewn cysylltiad â chreu'r Parc Cenedlaethol Glyndŵr newydd.”

'Pryderon'

Ychwanegodd Mr Irranca-Davies: “Gwyddom beth mae Parciau Cenedlaethol yn gallu cyflawni i Gymru. Mae'r tri Parc Cenedlaethol presennol yn denu tua 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyfrannu tua £1 biliwn i economi Cymru.

“Mae Parciau Cenedlaethol yn asedau cenedlaethol strategol ac maent yn chwarae rôl hanfodol yn: Diogelu tirweddau a bioamrywiaeth; Cefnogi ffermio cynaliadwy a chadwraeth drwy gynlluniau cydweithredol fel Ffermio Bro; Gyrru twristiaeth gynaliadwy a rheoli ymwelwyr, sydd o fudd i swyddi ac economïau lleol.

“Yn yr un modd, rwy'n deall y pryderon a'r amheuon sydd gan Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â sefydlu Parc Cenedlaethol newydd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol newydd.

“Mae'n newid mawr – yn fwriadol, gan ei fod wedi'i gynllunio i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hamgylchedd naturiol a gallu pobl i'w fwynhau. O ganlyniad, mae'n iawn bod y materion hyn yn cael eu hystyried yn ofalus iawn.

“Bydd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn galluogi'r ystyriaeth hon i ddigwydd.”

Mae sefydliad Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol wedi croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth, gan ddweud bod ymchwiliad cyhoeddus yn "cynnig rhagor o gyfle i ddangos buddion parciau cenedlaethol."

'Calonogol'

Dywedodd Gareth Ludkin, Rheolwr Polisi'r Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol: “Mae ymchwiliad o’r math hwn yn broses eithaf nodweddiadol i Barciau Cenedlaethol newydd fynd drwyddi, felly mae’n hanfodol bod Llywodraeth nesaf Cymru yn cynnal yr ymgynghoriad hwn mewn modd trylwyr ac amserol er mwyn caniatáu i benderfyniad terfynol gael ei wneud ar y Parc Cenedlaethol.

“Mae wedi bod yn galonogol gweld bod o leiaf 66% o’r bobl yr ymgynghorwyd â nhw wedi dangos cefnogaeth amodol o leiaf i’r Parc Cenedlaethol arfaethedig.

“Dynodiad Parc Cenedlaethol yw’r amddiffyniad cyfreithiol cryfaf sydd gennym i amddiffyn a gwella bywyd gwyllt, harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol

“Mae mor bwysig bod cymunedau lleol yn ymgysylltu’n llawn â chyfeiriad y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol i sicrhau dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dwfn o botensial y Parc Cenedlaethol. Os caiff ei sefydlu, rydym am weld pobl leol yn ymgysylltu’n llawn â datblygiad cynllun rheoli ar gyfer yr ardal yn y dyfodol, gan helpu i lunio ei dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.