Bachgen lleol 16 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

grangetown

Mae'r heddlu yn ymchwilio i wrthdrawiad ffordd angheuol rhwng car a beiciwr yng Nghaerdydd ddydd Mecher.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 1225, a hynny ar y gyffordd rhwng Heol Penarth a Heol Clare yn ardal Grangetown o'r Brifddinas.

Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau fod bachgen lleol, oedd yn 16 oed wedi marw o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.

Mae teulu’r bachgen yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ar gyfer sefyllfaoedd o'r math yma.

Mae'r heddlu hefyd wedi dweud eu bod yn "ymwybodol o luniau o'r digwyddiad hwn yn cael eu rhannu ar Facebook a mathau eraill o gyfryngau cymdeithasol."

Gan ychwanegu: "Ystyriwch yr effaith ar deulu'r dioddefwr a pheidiwch â rhannu hyn ymhellach."

(Llun - Google)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.