Carcharu dyn am gludo cyffuriau mewn faniau Gwasanaeth Iechyd ffug
Mae arweinydd gang troseddol a wnaeth ddefnyddio faniau oedd yn ffugio bod yn rhai'r Gwasanaeth Iechyd er mwyn cludo cyffuriau i dde Cymru a Lerpwl wedi ei garcharu am 20 mlynedd.
Roedd Ritesh Patel, 43 oed, yn arwain grŵp troseddol cyfundrefnol oedd yn gyfrifol am gludo cannoedd o gilogramau o gocên a heroin ar draws y DU drwy ddefnyddio cerbydau tacsi, cerbydau masnachol a faniau GIG ffug, mewn ymgais i guddio’r troseddu o’r awdurdodau.
Roedd y grŵp wedi defnyddio eiddo ym Mae Caerdydd, Radyr, Casnewydd a Lerpwl er mwyn cadw, cyfrif a phecynnu miliynau o bunnoedd o arian parod er mwyn talu’r rhai oedd yn mewnforio’r cyffuriau.
Roedd Patel wedi bod yn flaenllaw yn sefydlu cwmni adfer cerbydau o’r enw Mr Recover, gan osod gofodau cudd yn y cerbydau er mwyn cuddio a throsglwyddo cyffuriau o Lerpwl i Gymru.
Gwlad Thai
Cafodd ei gyhuddo gan Wasanaeth Erlyn y Goron ym mis Mehefin 2022. Yn ddiweddarach yn y mis hwnnw cafodd ei arestio yng Ngwlad Thai am gael pasbort ffug.
Gwnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron gais i’w estraddodi o Wlad Thai.
Ym mis Awst 2025 gwnaed gorchymyn estraddodi terfynol ac fe gafodd Patel ei hedfan yn ôl i'r DU ym mis Hydref 2025.
Cafodd ei gyhuddo'n ffurfiol am ei ran yn y cynllwyn i gyflenwi cocên a heroin.
Plediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i'r ddau gyhuddiad ac fe gafodd ei ddedfrydu ar 16 Mawrth i 20 mlynedd o garchar.
Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Lloyd Williams o Uned Troseddau Tarian Heddlu De Cymru: “Mae'r ddedfryd hon yn ganlyniad gwaith partneriaeth rhagorol rhwng Uned Troseddau Tarian, yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac mae'n adlewyrchu difrifoldeb troseddu Patel.
“Roedd yn gyfrifol am ddosbarthu symiau syfrdanol o gyffuriau Dosbarth A ar draws cymunedau de Cymru ac roedd yn credu y gallai osgoi'r gyfraith trwy guddio mewn gwlad dramor.
“Drwy ddod â Patel gerbron y llys rydym wedi dangos ymrwymiad Tarian i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig sy'n effeithio ar ein rhanbarth. Byddwn yn parhau i fynd ar ôl troseddwyr a'u rhoi gerbron y llysoedd.”