‘Sgandal’: 25 o fenywod yn derbyn iawndal gan Betsi Cadwaladr ar ôl llawdriniaeth gan un doctor

Y Byd ar Bedwar

‘Sgandal’: 25 o fenywod yn derbyn iawndal gan Betsi Cadwaladr ar ôl llawdriniaeth gan un doctor

Mae 25 o fenywod wedi derbyn iawndal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn llawdriniaeth gan un llawfeddyg.

Dros y misoedd diwethaf, mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi bod yn ymchwilio i Derek Klazinga, llawfeddyg gynaecoleg oedd yn gweithio i’r bwrdd iechyd rhwng 2002 a 2016. 

Mae nifer o’r menywod hyn wedi derbyn iawndal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar y sail na wnaeth Mr. Klazinga gael eu cydsyniad llawn cyn rhoi llawdriniaeth iddyn nhw, ac na wnaeth egluro sgil effeithiau triniaethau yn ddigon da i fenywod ddeall y risg cyn derbyn y driniaeth. Mae rhai wedi derbyn iawndal mor ddiweddar ag Ebrill 2025. 

Un o’r rheiny yw Kerry Watson o’r Rhyl, gafodd lawdriniaeth gan Derek Klazinga yn 2014 ar ôl cael diagnosis o brolaps y bledren yn 29 oed, cyflwr sy’n achosi dŵr i ollwng o’r bledren. 

Image
Kerry Watson gyda gohebydd Y Byd ar Bedwar, Nest Jenkins
Kerry Watson gyda gohebydd Y Byd ar Bedwar, Nest Jenkins

“Oeddwn i’n gollwng dŵr pan oeddwn i’n trio chwarae efo fy mhlant, ac yn teimlo rhywbeth trwm tu mewn i mi," meddai.

"Roedd Derek Klazinga yn wych, ac mor hawdd i ymddiried ynddo. Wnes i adael yr ystafell yn hollol hyderus gan feddwl y bydda fo’n datrys fy mhroblemau a gwneud imi deimlo’n well.”

Fe wnaeth Mr. Klazinga osod dau fath o fesh artiffisial yng nghorff Kerry er mwyn dal ei horganau yn eu lle. 

“Pan nes i ddeffro, roedd gen i boen ofnadwy yn fy nghefn ar yr ochr chwith," meddai.

"Roedd y boen yn annioddefol, dwi erioed wedi teimlo dim byd tebyg.”

Dyw’r boen heb wella, yn ôl Kerry, ers y driniaeth. Erbyn hyn, mae’n cymryd 120 o dabledi yr wythnos i drio ymdopi, ac yn 2024, fe gafodd ddiagnosis o PTSD ar ôl bod drwy gyfnodau tywyll.

“Do’n i ddim isio bod yma ddim mwy," meddai.

"Do’n i ddim eisiau bod yn faich ar bobl. Doeddwn i methu delio â’r boen, fy meddyliau na’r feddyginiaeth. Oeddwn i jyst yn fag o boen am 10 mlynedd.”

Yn 2023, fe wnaeth Kerry ddarganfod  gwefan cyfreithwyr oedd yn dwyn achosion yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynghylch triniaethau gan Derek Klazinga, ac yn fuan wedyn fe ddechreuodd ei hachos ei hun. 

“Ges i gynnig o gael llawdriniaeth mesh heb i ddim arall gael ei grybwyll, a ches i ddim gwybod am y risgiau ynghlwm a risgiau’r mesh TVT-O ges i - mae’n blastig ac yn mynd yn finiog unwaith ei fod o’n cael ei dorri," meddai.

"Ches i ddim y wybodaeth gywir cyn y llawdriniaeth.”

'Crio mewn poen'

Fe wnaeth Betsi Cadwaladr gyfaddef y dylai triniaethau eraill fod wedi cael eu trafod gyda Kerry, a bod cymlethdodau ynghlwm â’r mesh TVT-O heb gael eu pwysleisio’n ddigonol iddi. 

Fe wnaethon nhw gyfaddef hefyd bod y broses o gael cydsyniad Kerry am y driniaeth wedi disgyn yn is na’r safon disgwyliedig o lawfeddyg cymwys.

Yn Ebrill 2025, cafodd Kerry iawndal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Ges i gynnig swm isel i ddechrau, felly wnes i wrthod hwnnw, ac yn y diwedd fe wnes i dderbyn £110,000," meddai.

"Ac yn amlwg mae costau cyfreithiol yn dod allan o hynny, felly ges i £97,200 yn y diwedd. 

"Ydy hynny am fy ngwneud i’n gyfforddus? Yn mynd i wneud yn iawn am yr holl nosweithiau fydda i’n crio mewn poen? Dydy o ddim yn cyffwrdd yr ochrau.”

Mae Y Byd ar Bedwar wedi siarad â saith o fenywod yng ngogledd Cymru sydd wedi cael taliad ar ôl cael llawdriniaeth gan Derek Klazinga. 

Mae nifer yn honni na wnaethon nhw gydsynio i’r lawdriniaeth wnaethon nhw ei derbyn, a’r mwyafrif yn son am boenau ofnadwy sydd wedi dinistro eu bywydau wedi’r driniaeth. 

Mae’r saith, rhyngddynt, wedi derbyn mwy na £600,000 o iawndal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers i gyfreithwyr ddechrau dwyn achosion yn 2015.

Fe ofynnodd Y Byd ar Bedwar i’r bwrdd iechyd faint o arian sydd wedi ei dalu allan i gleifion yn dilyn llawdriniaethau gan Derek Klazinga’n benodol, ond cafodd y cais ei wrthod. 

Fe wnaeth y bwrdd iechyd gadarnhau fod gennyn nhw’r wybodaeth, ond yn methu a’i ryddhau oherwydd ei fod yn ymwneud â data personol. 

Fodd bynnag, fe wnaethon nhw gadarnhau eu bod wedi talu dros £5 miliwn o bunnoedd i gleifion yn y degawd diwethaf yn dilyn gwallau mewn triniaeth gynaecoleg ar draws y Bwrdd cyfan.

Image
YBAB

'Sgandal' 

Mae’r cyfreithiwr Michael Strain o Bwllheli’n un o’r rhai sydd wedi dwyn achos yn erbyn Betsi Cadwaladr ar ran cleient. 

“Mae’n anarferol iawn bod na unigolyn efo gymaint o achosion yn ei erbyn," meddai.

"Ac mae na ganllawiau mewn lle, lle dylai bod na ymchwiliad penodol yn cael ei wneud i’r cleifion sydd wedi cael eu gweld gan Mr Klazinga.

“Mae’r peth yn sgandal - sut bod un person yn gallu cael cymaint o achosion yn cael eu dwyn gerbron fel unigolyn, heb fod y bwrdd ddim wedi gadael i bobl wybod bod na gymaint o achosion yn dod?

“Mae isio bod llawer mwy trylowy am be sy wedi digwydd. Rydan ni’n mynd i ugeiniau o ferched sy wedi cael eu trin yn wael ac sydd wedi dod ag achosion yn erbyn Betsi - gan yr un person - wel pam nad ydy’r peth yn gyhoeddus a bod ni’n gwbod beth yn union sydd wedi digwydd? 

"Faint o bobl sydd allan yna sy’n diodda heb gael y driniaeth gywir? A sydd yn ista’n ddistaw mewn poen.”

'Cydymdeimlad'

Mae Y Byd ar Bedwar ar ddeall bod Mr. Klazinga wedi ymddeol o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2016, a’i fod wedi mynd i weithio mewn ysbyty i ferched yn Bahrain am gyfnod cyn dychwelyd i Brydain. Mae’r rhaglen wedi siarad gyda chyn-gydweithwyr iddo sy’n dweud bod pryderon wedi cael eu codi am ei waith cyn iddo adael y bwrdd iechyd. 

Yn ôl cyfreithwyr mae’r rhaglen wedi siarad â nhw, roedd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer (fitness to practise hearing) o flaen y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi ei drefnu yn 2021. 

Ond fe dynnodd Mr. Klazinga ei enw oddi ar y gofrestr feddygol cyn i’r gwrandawiad allu digwydd, rhywbeth sy’n siomi cleifion oedd i fod i roi tystiolaeth yno. 

Mae defnydd o’r mesh TVT a TVT-O, fel mae’r menywod mae Y Byd ar Bedwar wedi siarad â nhw wedi ei dderbyn, wedi ei atal yng Nghymru ers 2018, yn dilyn pryderon am ddiogelwch cleifion. 

Wrth ymateb i raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Derek Klazinga mewn datganiad:

"Yn gyntaf, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad diffuant bod y menywod hyn wedi gorfod dioddef y fath boen corfforol a seicolegol sydd wedi’i achosi gan yr hyn yr ydym bellach yn gwybod sy’n gynnyrch meddygol diffygiol.

"Cafodd y cynhyrchion hyn eu nodi fel rhai a allai fod yn niweidiol a'u gwahardd dros dro yn 2018. Dilynwyd hyn yn 2020 gan Ymchwiliad Cenedlaethol: Adolygiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Julia Cumberlege.

"Fe rois i’r gorau i ymarfer meddygaeth 10 mlynedd yn ôl, fwy na dwy flynedd cyn y gwaharddiad. Cyn ymddeol yn 2016, roeddwn bob amser yn ymarfer gyda'r claf yng nghanol fy ngofal, gan lynu wrth egwyddor gyntaf meddygaeth: 'Yn gyntaf, peidiwch â gwneud niwed'. 

"Gweithredais gyda'r proffesiynoldeb a'r uniondeb mwyaf. Wrth gwrs, roeddwn yn gwbl anymwybodol o natur ddiffygiol y cynnyrch, na ddatgelwyd tan ddwy flynedd ar ôl i mi ymddeol."

Aeth y tîm Y Byd ar Bedwar yn ôl at Mr Klazinga a dweud eu bod yn deall am bryderon y mesh ei hun, ond eisiau eglurhad am y ffordd na’th o egluro’r llawdriniaethau, y sgil effeithiau, a’r diffyg cydsyniad digonol wrth ei gleifion -  ond wnaeth o ddim ymateb i’r pwyntiau hynny.

'Dysgu gwersi'

Dywedodd Dr Clara Day, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

"Yn gyntaf, dymunaf ymddiheuro yn ddiffuant i'r holl ferched sydd wedi dioddef cymhlethdodau yn sgil mewnosod rhwyll yn y wain ar ôl triniaeth yn ein Bwrdd Iechyd. 

"Ar draws y DU, rydym yn gwybod bod nifer o hawliadau wedi'u setlo a dymunaf gydnabod y straen a'r boen y mae hyn wedi'i achosi i gyfran fechan o ferched yn ein rhanbarth a gafodd y triniaethau hynny.

"Ers i mi ddod yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol BIPBC ym mis Medi y llynedd, rwyf wedi cael gwybod am rywfaint o honiadau hanesyddol mewn perthynas ag un clinigydd a adawodd y Bwrdd Iechyd yn 2016. 

"Trwy'r system gyfreithiol, rydym wedi cydnabod niwed corfforol i rai cleifion a gafodd driniaethau ac rydym wedi canfod nad oedd cofnodion wedi’u cadw na chydsyniad wedi’i sicrhau yn unol â’r safon ofynnol mewn nifer o achosion.

"Ym mhob achos rydym wedi dilyn y prosesau cyfreithiol priodol ac wedi ceisio cwblhau'r hawliadau hynny cyn gynted â phosibl, er lles pennaf y cleifion hynny - ac yn unol â’r rheolau a'r gofynion sy'n ymwneud â hawliadau o'r fath. 

"Mae pob hawliad wedi cynnig cyfle i ni ddysgu gwersi, ac mae arbenigwyr oddi allan i’n Bwrdd Iechyd wedi craffu ar y gwersi hynny.

"Dylai cleifion bob amser gael y cyfle i wneud dewisiadau seiliedig ar wybodaeth am eu gofal a'u triniaeth. Ers y digwyddiadau hyn, mae ein prosesau ynghylch cydsynio a chadw cofnodion wedi'u cyfnerthu."

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Dan Gyllell Klazinga ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.