Abertridwr: Pedwar yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 17 oed

Tristan Kerr

Mae pedwar o bobl - dynion 18, 24 a 26 oed, a menyw 24 oed - wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun wedi eu cyhuddo o lofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr ger Caerffili. 

Bu farw Tristan Shae Kerr mewn tŷ ar Stryd Francis Isaf tua 17.45 ddydd Iau diwethaf. 

Mae disgwyl i Georgie Mears, Connor Palfrey, Ricardo Elliot ac Elexi Manny ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fore Mawrth. 

Mae menyw 28 oed o Henffordd a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr bellach wedi'i rhyddhau dan ymchwiliad.

Mewn teyrnged i Tristan Kerr, dywedodd Chris Walkley ar ran Clwb Rygbi Senghennydd y bydd wastad yn cael ei gofio gan “bawb a gafodd y pleser o’i wylio yn disgleirio ar y cae.” 

Roedd yn fachgen “direidus” oedd bob tro’n gwneud i bobl wenu, meddai. 

“Fe fydd colled fawr ar ôl Tristan a hoffwn gymryd y cyfle yma ar ran Adran ‘Mini ac Iau’ [Clwb Rygbi Senghennydd], y clwb ac mae’n debyg y cwm cyfan, i anfon ein cariad, ein meddyliau a'n cynigion o gefnogaeth i deulu a ffrindiau Tristan.” 

Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Abertridwr am 18.00 nos Lun er cof am Tristan. 

Dywedodd ei chwaer, Aliyah Kerr, y bydd pobl yn gollwng balŵns er mwyn cofio ei “hangel hardd.” 

Mae tudalen ‘Go Fund Me’ hefyd wedi cael ei sefydlu gan “ffrind agos” i Tristan, Jack Pring. 

Roedd Tristan yn gallu “goleuo ystafell lawn gyda’i wên,” meddai ar y dudalen sydd bellach wedi codi dros £5,000 tuag at gostau ei angladd. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.