Gwahardd gyrrwr Ferrari o Lundain rhag gyrru ar ôl iddo gael ei ddal yn Sir Conwy
Mae gyrrwr Ferrari o Lundain wedi cael ei wahardd rhag gyrru am wyth mis ar ôl iddo gael ei ddal yn gyrru ar gyflymder uchel ac yn ddiofal ger Cerrigydrudion yn Sir Conwy.
Fe wnaeth Ehsan Bhatti, 41, ddisgrifio'r F355 GTS coch mewn fideo ar-lein fel "un o'r Ferraris mwyaf prydferth erioed".
Ond ym mis Mai dywedodd Heddlu'r Gogledd ei fod wedi'i ddal yn gyrru'r car ar ffordd yr A5 yng Ngherrigydrudion tra'r oedd wedi'i wahardd ac heb yswiriant.
Fe gafodd y cyfarwyddwr ffilm ei riportio i'r heddlu am yrru tra'r oedd wedi'i wahardd, am yrru yn ddiofal ac am groesi llinell wen heb ei thorri.
Fe wnaeth Bhatti bledio'n euog i'r troseddau gyrru yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Gwener.
100 milltir yr awr
Dywedodd Diane Williams ar ran yr erlyniad fod swyddog heddlu wedi gorfod gyrru mwy na 100mya i ddal i fyny ag ef, ar ôl i'r Ferrari basio heibio cerbydau.
"Fe wnaeth y cerbyd groesi llinell wen heb ei thorri wrth iddo deithio tuag at Gerrigydrudion," meddai.
Fe aeth yr erlynydd ymlaen i ddweud bod gwaharddiad wedi'i osod ym mis Tachwedd am fethu â darparu gwybodaeth.
Ond dywedodd fod Bhatti wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn ymwybodol o'r gwaharddiad hwnnw.
Dywedodd Rhys Rosser ar ran yr amddiffyniad fod gwrandawiad llys wedi digwydd heb y diffynnydd, gan ei fod yn teithio dramor yn rheolaidd gyda'i waith.
"Mae wedi hedfan yn ôl ar gyfer y gwrandawiad hwn ac yn gadael eto fory," meddai’r cyfreithiwr. "Nid oedd yn ymwybodol o’r gwaharddiad."
Mae Bhatti wedi cael ei wahardd rhag gyrru am wyth mis.
Mae hefyd wedi cael gorchymyn i dalu dirwy o £2,204 a £967 mewn costau.
Dywedodd cadeirydd y llys, Ian Jones, wrtho: "Rydym wedi cymryd llawer o amser i ystyried y materion hyn, yn rhannol oherwydd ein bod yn cymryd troseddau gyrru yng ngogledd Cymru o ddifrif iawn - mae’r rheolau yno am reswm.
"Roedd yn benwythnos gŵyl banc lle byddai teuluoedd ac ymwelwyr â’r ardal yn gyrru’r ffordd honno."