Teyrngedau i ddau blentyn a gafodd eu saethu'n farw ym Minneapolis
Mae teuluoedd dau blentyn a gafodd eu saethu'n farw mewn ysgol Gatholig ym Minneapolis wedi rhoi teyrngedau iddyn nhw.
Bu farw Fletcher Merkel, wyth oed, a Harper Moyski, 10 oed yn yr ymosodiad.
Roedd y ddau blentyn yn mynychu offeren yn yr Eglwys Gatholig pan wnaethon nhw gael eu saethu gan Robin Westman, 23, cyn i'r saethwr ladd eu hunain.
Mewn datganiad dywedodd tad Fletcher Merkel, Jesse, bod “llwfrgi” wedi cymryd ei fab oddi arno ef a gweddill ei deulu.
“O ganlyniad i’w gweithredoedd nhw, ni fyddwn byth yn cael ei ddal, siarad ag ef, chwarae gydag ef a'i wylio'n tyfu i fod y dyn ifanc rhyfeddol,” meddai.
Gofynnodd i'r cyhoedd hefyd gofio ei fachgen “am y person yr oedd ac nid y weithred a ddaeth â'i fywyd i ben” wrth iddo annog rhieni i “roi cwtsh a chusan ychwanegol i'ch plant heddiw”.
“Ry’n ni’n dy garu di Fletcher, byddi di bob amser gyda ni,” meddai.
Dywedodd rhieni Harper Moyski ddydd Iau bod eu merch 10 oed yn “ddisglair, llawen a chariadus iawn ac fe gyffyrddodd ei chwerthin, ei charedigrwydd a'i hysbryd pawb oedd yn ei hadnabod”.
“Mae ein calonnau wedi torri, nid yn unig fel rhieni, ond hefyd dros chwaer Harper, a oedd yn addoli ei chwaer fawr ac sy'n galaru colled nad oes modd ei ddeall.
“Rydyn ni wedi ein chwalu ac na all geiriau fynegi dyfnder ein poen.”