Non Parry: 'Torri calon' gweld oedolion heb ddiagnosis awtistiaeth yn 'cosbi eu hunain'

Non Parry

Mae Non Parry, o’r grŵp pop Eden yn dweud bod ei "chalon yn torri" wrth weld oedolion sydd ag awtistiaeth ond heb ddiagnosis yn "cosbi eu hunain".

Daw ei sylwadau wrth i ymchwil newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener awgrymu nad yw'r mwyafrif o oedolion sydd dros 40 oed sydd ag awtistiaeth wedi derbyn diagnosis.

Mae ymchwil arbenigwyr o Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth yng Ngholeg y Brenin Llundain yn awgrymu bod dros 91% o ddynion a 79% o fenywod rhwng 40-59 sydd ag awtistiaeth heb gael diagnosis.

Dwy flynedd yn ôl y derbyniodd Non Parry, sy'n 51 oed, ddiagnosis o awtistiaeth.

Penderfynodd y gantores fynd am asesiad wedi i'w merch dderbyn diagnosis.

"Pan o’dd merch fi, Kitty yn 12 roedd hi wedi cael diagnosis o awtistiaeth," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ond the penny didn’t drop a dywedodd hi wrtha fi un noson ‘mam falle dyle ti fynd am asesiad achos ti’n siarad a meddwl fel dwi’n meddwl'.

"O’dd popeth yn neud synnwyr achos o’n i’n gweld cymaint o fi mewn Kitty.

"Ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o broblemau iechyd meddwl, iselder gorbryder, OCD ac anhwylder bwyta, o’n i jyst yn chwilio am ateb.

"O’n i isho dangos i Kitty bod rhywun arall fel hi, a cefnogi hi."

Image
Non Parry
Cafodd Non ddiagnosis o awtistiaeth yn 2023.

'Chwalu bywydau'

Mae awtistiaeth yn gyflwr niwroddatblygiadol ac mae'n achosi i bobl gymdeithasu'n wahanol i eraill.

Gall y rhai sydd â'r cyflwr fynd yn bryderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ymddangos yn ddi-flewyn-ar-dafod, a chael trafferth deall beth mae eraill yn ei feddwl neu'n ei deimlo.

Bellach yn seicotherapydd, mae Non Parry yn gweld sawl person sydd ag awtistiaeth ond heb dderbyn diagnosis, meddai.

"Dwi’n gweithio efo gymaint o oedolion sydd innau ar list yn aros am diagnosis neu yn cael diagnosis yn y broses o cael therapi efo fi," meddai.

"Mae cael y diagnosis yn stopio ni cosbi ein hunain neu newid ein hunain.

"Mae o'n torri calon fi. Dwi’n gweithio gyda pobl sy’n dod ata i gyda gorbryder neu iselder ofnadwy, dim isho gadael y tŷ.

"Mae o’n chwalu bywydau pobl, gwastraffu bywydau nhw yn meddwl mai nhw sydd wedi torri a nhw sydd ar fai.

"Cyrraedd 59 a dim cael ateb, ma' hynny yn dorcalonnus dydy?"

'Hunanddiagnosis'

Erbyn hyn mae sawl person sydd gyda thueddiadau tebyg i berson ag awtistiaeth yn rhoi diagnosis o awtistiaeth i'w hunain.

Mae hynny oherwydd bod cael asesiad awtistiaeth yn anodd, meddai.

Mae Non wedi bod ar restr aros y GIG ers tair blynedd a dal heb dderbyn dyddiad ar gyfer asesiad, felly fe benderfynodd cael asesiad yn breifat.

"Mewn byd delfrydol mae mwy o fynediad i brofion ac asesiadau," meddai.

"Ond mae mwy a mwy o bobl yn hunandiagnosio erbyn hyn, sydd yn hollol valid.

"Mae mwy o wybodaeth ac mae pobl yn rhannu eu profiadau, ac os ydach chi’n gallu uniaethu gyda’r heriau neu’r teimladau mae pobl sydd wedi cael diagnosis yn rhannu, mae’n ddigon teg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.