Brech yr ieir: Rhaglen frechu am ddim yng Nghymru o 2026 ymlaen

Brechu plant

Fe fydd plant Cymru yn cael cynnig brechiad yn erbyn brech yr ieir am ddim o fis Ionawr ymlaen, meddai Llywodraeth Cymru. 

Y nod fydd amddiffyn plant rhag cymhlethdodau all godi gyda brech yr ieir, ac arbed rhieni rhag colli gwaith er mwyn aros adref gyda'u plant sâl.

Fe wnaeth y Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), sy'n cynghori adrannau iechyd y DU, argymell cyflwyno'r brechiad ar y GIG ym mis Tachwedd 2023.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn y cyngor yma ac yn bwrw ymlaen gyda'r rhaglen frechu.

"Rydym wedi derbyn cyngor y Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio ar gyflwyno rhaglen frechu brech yr ieir fel rhan o'r amserlen imiwneiddio plant ac yn bwriadu cyflwyno hyn i blant ifanc cymwys o fis Ionawr 2026," medden nhw.

Fe fydd y brechiad i fabanod rhwng 12 ac 18 mis oed, hefyd ar gael yn Lloegr o fis Ionawr ymlaen.

Ar hyn o bryd mae'r brechiad yn costio £150 mewn clinigau preifat a fferyllfeydd.

'Amddiffyn'

Croesawodd Gweinidog Iechyd y DU ac AS Aberfan Maesteg, Stephen Kinnock y newyddion y bydd y brechiad ar gael am ddim.

“Rydym yn rhoi’r pŵer i rieni amddiffyn eu plant rhag brech yr ieir a’i gymhlethdodau difrifol, gan eu cadw yn y feithrinfa neu’r ystafell ddosbarth lle maen nhw fod ac atal rhieni rhag rhuthro am ofal plant neu orfod colli gwaith," meddai.

“Mae’r brechlyn hwn yn rhoi iechyd plant yn gyntaf ac yn rhoi’r gefnogaeth y mae teuluoedd sy’n gweithio yn ei haeddu.”

Mae brech yr ieir yn salwch cyffredin ymhlith plant.

Y prif symptom yw brech dros y corff, ond cyn i hyn ymddangos gall plant gael tymheredd uchel, colli chwant am fwyd, a theimlo'n sâl yn gyffredinol.

Fel arfer, mae brech yr ieir yn gwella ar ei ben ei hun o fewn cyfnod o bythefnos, er y gall rhai plant ddatblygu cymhlethdodau fel heintiau bacteriol fel strep A.

Mewn achosion prin, gall y feirws achosi chwydd ar yr ymennydd, llid difrifol yn yr ysgyfaint a strôc, gan arwain weithiau at farwolaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.