‘Mwy o dail moch a dofednod ym Mhowys na gweddill Cymru gyda’i gilydd’
Mae pryderon am effaith amgylcheddol faint o foch a dofednod sy’n cael eu ffermio ym Mhowys.
Mewn adroddiad newydd dywedodd Yr Ymddiriedolaethau Natur (Wildlife Trusts) bod mwy o dail moch a dofednod yn cael ei gynhyrchu ym Mhowys na gweddill Cymru gyda’i gilydd.
Mae 39,235 metr ciwbig o dail moch a ieir yn cael eu cynhyrchu ym Mhowys yn unig bob blwyddyn o’i gymharu â 9,202 ar draws de Cymru a 17,091 yn y gogledd.
Mae’r tail hwnnw’n cynhyrchu 93,497kg o nitrogen bob blwyddyn a 53,431kg o ffosffad, eto yn uwch na gweddill Cymru gyda’i gilydd.
Dywedodd yr adroddiad bod Powys wedi gweld “cynnydd trawiadol” mewn ffermio dofednod o 1m yn 2007 i 5m yn 2020.
Roedd pryder am effaith hynny ar yr amgylchedd, yn enwedig safon y dŵr mewn afonydd oedd yn llifo o’r sir, meddai yr Ymddiriedolaethau Natur.
Roedd Afon Wysg yn cario 262kg o ffosffad bob dydd gyda tir gwledig yn cyfrannu dros 70% o’r ffigwr hwnnw, medden nhw.
Dywedodd Barnaby Coupe, uwch reolwr polisi defnydd tir Yr Ymddiriedolaethau Natur bod yr adroddiad yn dangos risgiau ehangach ffermio moch a dofednod ar draws y DU.
“Mae’n amlwg bod effeithiau sylweddol cynhyrchu moch a dofednod yn y DU yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r unedau ffermio dwys eu hunain,” meddai.
“Mae angen camau gweithredu pellach i fynd i’r afael â’r risgiau i’r amgylchedd
“Mae’n hollbwysig cael cefnogaeth gan y llywodraeth a’r diwydiant fel nad yw ffermwyr yn gorfod ysgwyddo’r baich o drwsio’r system doredig hon.
“Mae ffermwyr yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd ac mae angen cefnogaeth arnynt os ydynt am wneud y mwyaf o’r manteision i’r amgylchedd, yn enwedig ar gyfer ansawdd dŵr a bioamrywiaeth.”
Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Defra: “Rydym yn rhannu pryder y cyhoedd ynghylch iechyd ein dyfrffyrdd ac wedi ymrwymo i lanhau ein hafonydd a lleihau llygredd amaethyddol.”
Mae Newyddion S4C wedi holi Llywodraeth Cymru am ymateb.