Pobl yn ‘lledaenu anwiredd yn fwriadol’ am gynlluniau i gynnig cartref i fewnfudwyr
Mae un o gynghorau cymoedd y de wedi dweud wrth bobl sy’n “lledaenu anwiredd yn fwriadol” am gynlluniau i gynnig cartref i fewnfudwyr “i roi’r gorau iddi ar unwaith”.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf bod hanner dwsin o negeseuon gwahanol wedi eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r bwriad o gamarwain pobl.
Daw hyn wedi protestiadau mewn sawl rhan o Brydain, gan gynnwys yr Wyddgrug, yn erbyn cynlluniau i gynnig llety i geiswyr lloches mewn ardaloedd gwahanol.
Mae nifer o gymunedau yn y DU, gan gynnwys Llandudno yn Sir Conwy a Henllys, Cwmbran, hefyd wedi gweld graffiti o fflag Lloegr wedi’u peintio'n anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf nad oedd negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai cartref gofal yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnig llety i fewnfudwyr anghyfreithlon yn wir.
Roedd y negeseuon yn ymwneud â chartref gofal Cae Glas yn Y Ddraenen Wen ger Pontypridd.
Ym mis Ionawr penderfynodd y cyngor gau'r cartref gofal er mwyn arbed £1.1m.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: “Mae'r cyngor yn ymwybodol o sibrydion ffug pellach ynghylch dyfodol adeilad ar y cyfryngau cymdeithasol, y tro hwn ynghylch hen gartref nyrsio Cae Glas yn Y Ddraenen Wen.
“Fel yr hanner dwsin o negeseuon eraill nad ydynt yn wir dros yr wythnosau diwethaf, nid oes unrhyw wirionedd o gwbl yn y sibrydion hyn.
“Gallwn gadarnhau'n bendant na fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gartrefu mewnfudwyr anghyfreithlon.
“Byddai'r cyngor yn annog y rhai sy'n lledaenu anwiredd yn fwriadol i roi'r gorau i wneud hynny ar unwaith.
“Byddem hefyd yn annog pob preswylydd sydd ag unrhyw bryderon ynghylch defnydd yr adeilad hwn, neu unrhyw adeilad arall, yn y dyfodol i ofyn am eglurhad gan ffynonellau dibynadwy, fel y cyngor neu'ch cynrychiolwyr etholedig lleol.
“Gellir cadarnhau, fodd bynnag, bod diddordeb wedi bod mewn adnewyddu a throi’r adeilad yn gyfleuster gofal nyrsio, a bydd y cyngor yn archwilio'r opsiynau hyn maes o law.”