Llai o gynnydd na’r disgwyl ym mhris Mounjaro i fferyllfeydd Prydain

Mounjaro

Fe fydd fferyllfeydd Prydain yn cael prynu cyffur colli pwysau Mounjaro am bris is, meddai’r cwmni sy’n ei gynhyrchu.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Eli Lilly y byddai’n codi pris y cyffur cymaint â 170% a allai fod wedi golygu bod cost y dos mwyaf pwerus bron a threblu o £122 i £330 y mis.

O dan y cynlluniau newydd, bydd y gost yn dal i ddyblu ar gyfer y dos uchaf o 15mg, i £247.50 o 1 Medi ymlaen.

Bydd fferyllfeydd a gwasanaethau colli pwysau preifat eraill yn gallu ychwanegu eu costau eu hunain i ddefnyddwyr.

Ond mae'n golygu nad yw'r cynnydd mewn pris i gleifion yn debygol o fod mor fawr ag yr ofnwyd yn wreiddiol.

Mewn datganiad dywedodd Eli Lilly: "Rydym yn gweithio gyda darparwyr preifat ar drefniadau masnachol i sicrhau bod [Mounjaro] yn fforddiadwy ac yn disgwyl i'r rhain gael eu trosglwyddo i gleifion pan fydd y newid yn weithredol o 1 Medi ymlaen.

"Rydym eisoes yn gweld darparwyr yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i'r newid pris, gydag amrywiaeth o opsiynau ar gael i gleifion cymwys."

Mae mwy na 1.25 miliwn o bobl yn y DU yn cymryd cyffuriau colli pwysau, y mwyafrif helaeth ohonynt yn talu'n breifat oherwydd bod darpariaeth y GIG yn gyfyngedig iawn.

Mae tua 90% ohonyn nhw ar hyn o bryd yn cymryd pigiadau wythnosol o Mounjaro (tirzepatide).

Mae treialon clinigol yn awgrymu bod pobl yn colli 20% o'u pwysau mewn ychydig fisoedd. Mae pobl yn colli 15% o'u pwysau ar y cyffur arall Wegovy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.