Cerddwr wedi marw ar fynydd Tryfan
Mae cerddwr wedi marw ar ei ffordd i lawr o fynydd Tryfan yn nyffryn Ogwen, meddai’r gwasanaethau brys.
Dywedodd Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod nhw wedi eu galw i’r mynydd dros y penwythnos.
Fe wnaeth yr unigolyn ddioddef trawiad ar y galon ger Llyn Bochlwyd, sydd tua hanner milltir i’r de o Lyn Ogwen, ar y dydd Sadwrn.
“Roedd cerddwr ar ei ffordd i lawr o fynydd Tryfan pan gafodd ataliad ar y galon,” meddai llefarydd ar ran y tîm achub mynydd.
“Er gwaethaf ymdrechion y tîm a cherddwyr eraill, ni oroesodd y claf, ac fe gafodd ei gludo o'r mynydd.
“Mae meddyliau pawb gyda theulu a ffrindiau'r claf.”
Fe gafodd y tim achub mynydd eu galw’n ôl i Tryfan gyda’r nos yr un diwrnod er mwyn achub dau gerddwr arall.
Bu’n rhaid gostwng aelod o’r tîm achub mynydd 300 troedfedd i lawr crib gogleddol y mynydd er mwyn eu cyrraedd.