Cyhoeddi sychder yn y gogledd gyda 'phwysau eithafol' ar afonydd

sychder (dwr cymru)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sychder yng ngogledd Cymru gan ddweud bod rhai afonydd dan eu lefelau isaf ar gofnod.

Er gwaetha’r glaw dros y dyddiau diwethaf, dywedodd CNC ddydd Gwener bod lefelau penodol wedi cael eu cyrraedd i symud gogledd Cymru i statws sychder.

Daw hyn wedi iddyn nhw ddatgan sychder yn ne-ddwyrain Cymru yn gynharach y mis hwn.

“Yng ngogledd Cymru, mae mwy o adroddiadau yn cael eu derbyn am nentydd sych a physgod yn cael eu canfod mewn trafferthion,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Effeithiodd tân gwyllt difrifol ar Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch dros benwythnos gŵyl y banc, gan arwain at gau’r safle am gyfnod.”

Rhannwyd y penderfyniad i symud i statws sychder gyda chyfarfod Grŵp Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru fore dydd Gwener, meddai llefarydd.

Dywedodd Ben Wilson, Prif Gynghorydd, o Gyfoeth Naturiol Cymru y bydd yn cymryd “misoedd lawer” a “glaw mwy cyson” i’r amgylchedd adfer yn llawn.

"Y cyfnod o chwe mis rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf oedd y sychaf ers sychder 1976, ac mae wedi rhoi pwysau eithafol ar ein hafonydd, dyfroedd daear, amaethyddiaeth a bywyd gwyllt,” meddai. 

“Mewn rhai ardaloedd, mae hyn wedi achosi i lifoedd afonydd a lefelau dŵr daear ostwng o dan y lefelau isaf hanesyddol.

"Wrth i ni fynd i mewn i'r Hydref, rydym yn parhau i gadw llygad agos ar ragolygon tywydd, llif afonydd a lefelau dŵr daear, yn ogystal ag ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau amgylcheddol a achoswyd gan y sychder. 

“Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill i roi darlun llawn o amodau ledled y wlad."

Hyd yn hyn eleni mae Cymru wedi derbyn 555mm o law (Ionawr i Orffennaf 2025), sydd bron mor sych â'r amodau yn 2022, lle cyhoeddwyd statws sychder ar Gymru gyfan erbyn mis Medi.

O ddydd Mawrth, 26 Awst, roedd Cymru wedi cael 22.43% o’r glawiad misol cyfartalog yn unig.

Ychwanegodd Ben Wilson: "Wrth i newid yn yr hinsawdd gyflymu, mae disgwyl i hafau yn y DU ddod yn sychach, a bydd digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn fwy aml a dwys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.