Tân yn dinistrio cuddfan gwylio adar yn y de
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod tân diweddar wedi dinistrio un o’u cuddfannau adar ym Morlynnoedd Allteuryn, Casnewydd.
Y bwriad yw dechrau ar y gwaith o atgyweirio’r difrod a glanhau’r safle ddechrau’r wythnos nesaf meddai CNC, ac mae eu swyddogion yn ystyried yr opsiynau ar gyfer disodli’r guddfan adar.
Mae’r llwyfannau gwylio ar gael i’w defnyddio o hyd meddai llefarydd, ond mae angen cymryd gofal arbennig os yw pobl yn ymweld â’r ardal.
Llun: CNC