Côr o Fôn yn cipio un o brif wobrau'r Ŵyl Ban Geltaidd
Mae Côr Esceifiog o Ynys Môn wedi cipio’r wobr am Gôr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni.
Daw hyn wedi iddyn nhw ennill yn y categori am y perfformiad gorau gan unrhyw gôr ar gyfer bob cystadleuaeth yn yr ŵyl.
Fe gafodd yr Ŵyl Ban Geltaidd ei chynnal yn Carlow, Gweriniaeth Iwerddon dros y penwythnos.
Fe ddaeth y côr cymysg o Fôn hefyd i’r brig mewn sawl categori arall yn ystod yr ŵyl, gan gynnwys yng nghystadleuaeth Corau Gwledig Cymysg, Canu Grŵp Traddodiadol a Chystadleuaeth Agored i Gorau.
Dyma’r ail dro yn olynol i Gôr Esceifiog gipio’r wobr am Gôr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd ar ôl dod i’r brig y llynedd hefyd.
Mae Mared Edwards yn aelod o’r côr a dywedodd bod y fuddugoliaeth yn “hollol annisgwyl” eleni.
Wrth siarad ar Radio Cymru dywedodd: “Oddan ni di deud eleni bod ni jyst yn mynd i fynd i fwynhau'r profiad mewn ffordd.
“Felly mae dod adre efo pedair gwobr – mae ‘di bod yn brofiad anhygoel deud y gwir ac annisgwyl ofnadwy ond da ni’n falch iawn wrth gwrs.”
Roedd saith o gorau eraill o Gymru hefyd yn cystadlu yn yr ŵyl ac yn ôl Ms Edwards roedd ‘na “dipyn o gefnogaeth o fan ‘na.”
“Mae o’n ffantastig, mae ‘na deimlad o gymuned mewn ffordd. Mae o’n gartrefol iawn a mae ‘na wastad croeso mawr gan y Gwyddelod llu,” meddai.
Mae’r ŵyl yn “ddathliad mawr o’r gwledydd Celtaidd a’r traddodiadau sydd efo ni gyd,” ychwanegodd.
Daw eu llwyddiant wedi i gyfansoddwyr cân fuddugol Cân i Gymru eleni, Dros Dro, cipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr ŵyl.
Fe ddaeth y band o Sir Gâr i’r brig nos Iau yn dilyn eu perfformiad gyda’u cân, ‘Troseddwr yr Awr.’
Llun: Côr Esceifiog/Facebook