Band Dros Dro yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
Mae cyfansoddwyr cân fuddugol Cân i Gymru eleni, Dros Dro, wedi cipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Daeth y band o Sir Gâr yn fuddugol am berfformio eu cân 'Troseddwr yr Awr' yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow nos Iau.
Roeddent yn cystadlu yn erbyn cystadleuwyr o bedair gwlad wahanol.
Wrth siarad gyda rhaglen Heno cyn y gystadleuaeth dywedodd aelodau'r band eu bod yn gyffrous i gystadlu a dyma oedd eu tro cyntaf yn yr ŵyl.
Fe gafodd bandiau a chantorion o Gymru lwyddiant yng nghystadlaethau eraill yr ŵyl nos Iau hefyd.
Enillodd Gwilym Bowen Rhys y drydedd wobr yn y gystadleuaeth Canu Cân Draddodiadol unigol.
Ac fe ddaeth Lo-fi Jones yn ail yn yr un gystadleuaeth i fandiau neu grwpiau.