Newyddion S4C

Porthladd Caergybi: Tasglu i gyfarfod am y tro cyntaf

27/03/2025
Difrod porthladd Ceargybi

Bydd tasglu newydd a gafodd ei sefydlu i ymateb i gau borthladd Caergybi yn ystod Storm Darragh, yn cael ei gyfarfod cyntaf ddydd Iau. 

Mae disgwyl iddynt drafod sut i sicrhau llwybrau môr dibynadwy rhwng Cymru ac Iwerddon, yn ogystal â chryfhau cysylltiadau’r porthladd er lles y ddwy wlad. 

Dyma fydd y tro cyntaf i’r tasglu ddod at ei gilydd ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates gyhoeddi ar 7 Ionawr eleni y byddai'n cael ei sefydlu.

Bydd Mr Skates yn arwain y gwaith ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, a Gweinidog Gwladol Llywodraeth Iwerddon dros Drafnidiaeth Ryngwladol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd, Seán Canney.

Fe fydd swyddogion sydd yn cynrychioli llywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, cwmnïau porthladdoedd, cwmnïau fferi, a chynrychiolwyr y diwydiant logisteg hefyd yn bresennol yn y cyfarfod ym Môn ddydd Iau. 

Dywedodd Mr Skates y bydd y tasglu yn ceisio dod o hyd i “atebion ymarferol” i heriau fel “tywydd garw ac aflonyddwch posibl arall."

Difrod

Fe gafodd holl wasanaethau fferi ym mhorthladd Caergybi eu canslo cyn y Nadolig ar ôl  difrod i ddwy derfynfa.

Bu'n rhaid i filoedd o bobl oedd yn ceisio teithio adref ar gyfer y Nadolig wneud trefniadau eraill. Yn ogystal, cafodd effaith ddifrifol ar nifer o fusnesau yng Nghymru ac Iwerddon.

Cafodd y porthladd ei ail-agor yn rhannol ar 16 Ionawr gydag amserlen wedi’i haddasu, wedi i un derfynfa gael ei hatgyweirio.

Mae cwmni Stena Line, perchnogion y porthladd, eisoes wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd yr ail derfynfa a gafodd ei difrodi, sef Terfynfa 3, yn ail-agor ar 1 Gorffennaf 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.