Newyddion S4C

Porthladd Caergybi: Tasglu Llywodraeth Cymru heb gyfarfod ddeufis ers ei sefydlu

Porthladd Caergybi

Ddeufis ers i Lywodraeth Cymru sefydlu tasglu arbennig i ymateb i gau borthladd Caergybi yn ystod Storm Darragh, mae wedi dod i'r amlwg nad yw'r tasglu hwnnw wedi cyfarfod hyd yma.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd ddydd Iau, dywedodd Ian Davies, swyddog Materion Llywodraeth cwmni Stena Line nad oedd yn ymwybodol o agenda na chyfrifoldebau'r tasglu hwnnw.

Gofynnodd Andrew RT Davies A.S., cadeirydd y pwyllgor iddo mewn ymateb: "Ddeufis yn ddiweddarach nid ydych wedi cael gorchwyl llawn (y tasglu)?

"Nid y cylch gorchwyl llawn o'r hyn sy'n gysylltiedig â'r tasglu, naddo."

Ychwanegodd Andrew RT Davies: ‘Rwy’n meddwl mai’r rheswm pam y mae aelodau’r pwyllgor wedi codi ael yw, o ystyried y brys yr oedd pobl yn ei deimlo ar yr adeg honno pan gaewyd y porthladd, ac un o ymatebion allweddol y llywodraeth oedd sefydlu’r tasglu, nid yw'r aelodau’n tybio’n afresymol y byddai lefel o frys o ran cyfeirio ac aelodaeth i’w roi ar waith.

"Dim ond ychydig dros 12 mis o’r tymor hwn sydd ar ôl i’r Senedd ac mae’n ymddangos nad yw'r llywodraeth hyd yn oed wedi tynnu ei bys allan i gael y pethau sylfaenol yn iawn ar hyn."

Image
Ian Davies
Ian Davies o Stena Line yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor

Mae cwmni Stena Line bellach wedi dweud bod y lanfa ym mhorthladd Caergybi wedi ei tharo gan ddwy long wahanol cyn chwalu yn ystod Storm Darragh y llynedd.

Fe gafodd glanfa 3 oedd yn cael ei defnyddio "yn bennaf" gan gwmni Irish Ferries ei difrodi yn ystod Storm Darragh ar 6 a 7 Rhagfyr 2024. 

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ar 7 Ionawr eleni y byddai'r tasglu'n cael ei sefydlu.

Dywedodd y byddai'n gweithio gyda Gweinidogion dros Drafnidiaeth Iwerddon, Llywodraeth y DU "ac unigolion allweddol eraill ym mhorthladdoedd a diwydiant fferi Cymru ac Iwerddon i sicrhau bod y porthladd yn diwallu anghenion y ddwy wlad yn y dyfodol."

Un arall i gael ei holi gan y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ddydd Iau oedd Martin Reid, Cyfarwyddwr Polisi ar gyfer Cymru, o'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd. 

Dywedodd yntau nad oedd wedi cael dim gwybodaeth am y tasglu ar ôl clywed ei fod am gael ei sefydlu:

"Rwyf wedi cael e-bost yn dweud wrthyf fod y tasglu yn mynd i gael ei sefydlu ond dyma pa mor bell ag y mae wedi mynd. 

"Rwy'n meddwl ei fod yn ofynnol - mae mwy o angen mwy o gydweithio ac fel yr wyf wedi dweud - yr hyn yr ydym wedi'i weld pan fydd systemau fel hyn yn cwympo, mae'r sgil-effaith yn enfawr."

Cytundeb

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor brynhawn dydd Iau, dywedodd Ken Skates: "Cyn gynted ag y byddaf yn cyfarfod gyda gweinidogion Gwyddelig dros y penwythnos hwn - gobeithio y bydd ganddo ni gytundeb am dermau cyfeirio a hefyd aelodaeth y tasglu. Yn syth wedyn fe fyddwn yn cyhoeddi'r manylion. 

"Ond rwyf wir angen i hwn gael ei gymeradwyo gan weinidogion Gwyddelig o gofio ei fod yn ymdrech ar y cyd. Ac mae nifer enfawr o newidiadau wedi bod fel dwi'n sîwr bod aelodau'n ymwybodol ohonynt o fewn llywodraeth Iwerddon dros y misoedd diwethaf. 

"Felly mae hynny wedi setlo nawr ar lefel Wyddelig felly gobeithio y caf gytundeb ar dermau cyfeirio dros y penwythnos pan fyddaf yn cyfarfod gyda gweinidogion Gwyddelig."

Pan ofynnwyd iddo pam ei fod wedi cymryd dau fis i hyn ddigwydd, ychwanegodd Mr Skates: "Mae heriau capasiti o fewn y llywodraeth, ond yn fwyaf oll rydym wedi cael newid sylweddol o fewn llywodraeth Iwerddon ac rwyf angen i'r gweinidog sydd yn gyfrifol am y maes polisi hwn i lofnodi termau cyfeirio cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi."

 

 

 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.