Newyddion S4C

Plaid: Refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn bosib ‘o fewn ein hoes ni’

Rhun ap Iorwerth

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn credu y gallai refferendwm ar annibyniaeth i Gymru gael ei gynnal “o fewn ein hoes ni”.

Daw ei sylwadau wedi i arolwg barn gan YouGov awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen gyda 30% o’r bleidlais bosib, gyda Reform yn ail ar 25% a Llafur yn y trydydd safle ar 18%.

Mae’r Blaid Lafur wedi ffurfio bob llywodraeth yng Nghymru hyd yma ers dechrau datganoli. 

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, na fyddai ei blaid yn gwthio am refferendwm ar annibyniaeth os oedden nhw’n ffurfio llywodraeth.

Roedd angen canolbwyntio ar “broblemau mawr o fewn GIG Cymru,” addysg, heriau economaidd Cymru a thlodi yn gyntaf, meddai.

 Ond mae’n “berffaith bosib” y gallai refferendwm ar annibyniaeth gael ei gynnal “o fewn ein hoes ni” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Beth sy’n allweddol yw mai pobl Cymru sydd yn penderfynu,” meddai.

“Ac rydw i wedi dweud sawl gwaith yr hoffwn i gael annibyniaeth yfory, ond fy marn i sy’n bwysig.

“Dyma’r hyn mae pobl Cymru’n ei gredu, ac rydw i’n hollol grediniol y gallwn ni gael y refferendwm hwnnw a’n rhoi ni ar gyfeiriad gwahanol fel gwlad o fewn ein hoes.”

'Gwaeth'

Beth bynnag oedd yn digwydd yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026 fe fyddai yn rhaid i bleidiau Cymru gydweithio, meddai.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai yn ei gweld hi’n anodd cydweithio gyda Reform a’r Ceidwadwyr.

“Mae gennym ni ddwy blaid geidwadol yng Nghymru nawr: y Blaid Geidwadol, a Reform sydd fel y Torïaid ond yn waeth,” meddai.

“Y  blaid wleidyddol o blaid Thatcher, a’r blaid wleidyddol o blaid Trump sy’n gweithio yn erbyn buddiannau gweithwyr, sy’n gweithio yn erbyn buddiannau busnesau yng Nghymru.

“Dydw i ddim yn meddwl fod hynny’n wleidyddiaeth sydd er budd Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.