Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Hyfforddwr newydd Cymru eisiau 'codi'r safon' yn erbyn Yr Alban

Sean Lynn (Huw Evans)

Fe fydd cyfnod newydd yn dechrau i dîm rygbi menywod Cymru ddydd Sadwrn wrth i Sean Lynn gychwyn ei gyfnod yn brif hyfforddwr gyda gêm yn erbyn yr Alban ar benwythnos agoriadol y Chwe Gwlad.

Wythnos yn ôl, roedd Lynn, o Abertawe, yn paratoi tîm Caerloyw-Hartpury ar gyfer rownd derfynol Uwch Gynghrair Lloegr – y gystadleuaeth fwyaf ar lefel clwb yn y byd rygbi menywod.

Wrth arwain y tîm i fuddugoliaeth 34-19 yn y ffeinal yn erbyn y Saracens ddydd Sul, fe wnaeth Lynn sicrhau mai ef yw'r hyfforddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y gynghrair, gyda'i dîm wedi ennill y gynghrair am dri tymor yn olynol.

Diwrnod yn ddiweddarach, ac roedd Lynn ym mhencadlys tîm rygbi Cymru yn cychwyn ar ei swydd newydd fel prif hyfforddwr - a hynny pum diwrnod yn unig cyn y gêm Chwe Gwlad erbyn Yr Alban.

Er ei fod yn cydnabod ei fod wedi bod yn “wythnos brysur” iddo, mae’n dweud ei fod yn barod i ymgymryd â’r her newydd o wella perfformiadau Cymru.

“Dwi’n gyffrous iawn,” meddai.

“Y dalent sydd yna yn y garfan Cymru, dyna’r peth rwy’n fwyaf cyffrous amdano.

“Yn sicr dwi’n teimlo fel bod ni’n gallu codi’r safon, dyna pam dwi wedi cymryd y rôl.

“Dwi eisiau gyrru ni ymlaen, fel teulu - a theulu’r dyfodol gyda chwaraewyr y dyfodol. Dwi eisiau gwthio’r safonau.”

Ail-adeiladu

Mewn blwyddyn ble fydd Cwpan y Byd y menywod yn cael ei chynnal yn Lloegr, fe fydd Lynn a Chymru yn gobeithio adeiladu hyder yn y garfan gydag ymgyrch cadarnhaol yn y Chwe Gwlad.

Roedd 2024 yn flwyddyn siomedig i’r tîm, gan orffen gyda’r Llwy Bren ar ôl un fuddugoliaeth yn unig, a hynny dros Yr Eidal.

Roedd anghydfod hefyd yn ystod trafodaethau dros gytundebau chwaraewyr y tîm cenedlaethol, gyda honiadau am y ffordd y cafodd y chwaraewyr eu trin gan Undeb Rygbi Cymru.

Fe wnaeth y Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham ymddiswyddo fis Tachwedd ar ôl perfformiad siomedig yng nghystadleuaeth XV2 ddiwedd y flwyddyn.

Gyda Lynn nawr wrth y llyw, fe benderfynodd y byddai Hannah Jones yn parhau yn ei rôl fel capten - y canolwr profiadol a chwaraeodd dan Lynn i dîm Caerloyw-Hartpury yn y fuddugoliaeth nodedig chwe diwrnod yn ôl.

Mae saith chwaraewr arall o garfan Caerloyw-Hartpury yn y 23 fydd yn herio’r Albanwyr, gan gynnwys Lleucu George, sydd yn cychwyn yn y rhif 10.

Mae Alaw Pyrs yn cychwyn yn yr ail reng, tra bod ei chwaer, y prop profiadol Gwenllian Pyrs, ar y fainc.

Tîm Cymru i wynebu’r Alban:

15 Jasmine Joyce
14 Lisa Neumann
13 Hannah Jones (capten)
12 Kayleigh Powell
11 Carys Cox
10 Lleucu George
9 Keira Bevan
1 Maisie Davies
2 Carys Phillips
3 Jenni Scoble
4 Abbie Fleming
5 Alaw Pyrs
6 Kate Williams
7 Bethan Lewis
8 Georgia Evans

Eilyddion:
16 Kelsey Jones 
17 Gwenllian Pyrs 
18 Donna Rose
19 Gwen Crabb
20 Bryonie King
21 Meg Davies
22 Courtney Keight
23 Nel Metcalfe

Lluniau: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.