Cadeirydd cefnogwyr rygbi yn 'siomedig' efo cytundebau merched
Cadeirydd cefnogwyr rygbi yn 'siomedig' efo cytundebau merched
Mae Cadeirydd Corff cefnogwyr rygbi Caerdydd wedi beirniadu'r undeb wedi honiadau am y ffordd y maen nhw wedi trin eu chwaraewyr benywaidd.
Daw hyn ar ôl i'r Telegraph ddweud fod merched tîm Cymru wedi wynebu cael eu hatal rhag cael eu dewis i chwarae yn rhai o’r prif bencampwriaethau, oni bai eu bod nhw'n cytuno i delerau’r undeb.
Yn ôl Lynn Glaister sydd yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Rygbi CF10 mae'r honiadau yn erbyn yr Undeb yn "siomedig ofnadwy ac yn rhwystredig iawn".
Ymddiriedolaeth ydy hon sydd yn dweud ei bod yn llais annibynnol ar gyfer cefnogwyr rygbi yng Nghaerdydd.
Wrth siarad ar raglen radio Sunday Supplement y BBC roedd hi'n cwestiynu a fyddai sefyllfa debyg byth yn codi gyda thîm y dynion.
"A fydden nhw wedi bygwth tynnu yn ôl o gystadleuaeth y dynion dair awr cyn y dedlein?" gofynnodd. "Fydden nhw jest ddim wedi gwneud hynny."
'Ddim yn dda'
Mae Jess Kavanagh, sydd yn gyn chwaraewr gyda thîm rygbi merched Cymru wedi dweud wrth y BBC bod hi'n "amlwg nad yw pethau yn iawn o fewn y garfan".
"Dyw'r merched ddim wedi bod yn perfformio dros y ddwy flynedd ddiwethaf."
Mae'n dweud bod y chwaraewyr wedi gwneud yn dda pan wnaeth yr Undeb fuddsoddi yn y gêm a rhoi cytundebau proffesiynol iddyn nhw dair blynedd yn ôl.
"Fe ddaethon ni yn drydydd yn Gemau'r Chwe Gwlad ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi dod yn fwy gweledol ar y cae fod pethau ddim yn dda o fewn y sefydliad."
Dywedodd ei bod wedi siarad gyda rhai o'r merched a'u bod nhw dal ddim yn hapus gyda'u cytundebau.
"Mae cael eich gorfodi i arwyddo cytundeb mae'n blacmel. Mae'n 2024. Ddylai hyn ddim fod yn digwydd mewn unrhyw weithlu."
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi syrthio ar ei bai gan gyfaddef ei bod nhw wedi gwneud camgymeriadau. Ond maent yn gwrthod unrhyw honiad o rywiaeth a bwlio.
Fe gafodd adolygiad ei gynnal i'r broses o drafod cytundebau ac mae disgwyl i'r argymhellion gael eu cyhoeddi'r mis yma.