Ffatri Wisgi Penderyn yn 25: Balch o arddangos 'Cymru fach i'r byd'
Ffatri Wisgi Penderyn yn 25: Balch o arddangos 'Cymru fach i'r byd'
Mae un o gyfarwyddwyr Ffatri Wisgi Penderyn wedi dweud mai arddangos “Cymru fach i’r byd” yw nod y busnes, wrth iddyn nhw ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu.
Fe gafodd y cwmni diodydd ei sefydlu yn 2000 ar ôl i ddyn busnes lleol a’i ffrindiau benderfynu y dylai Cymry ail fentro i’r diwydiant cynhyrchu wisgi.
Bron i ganrif ynghynt fe wnaeth Distyllfa Frongoch yn y Bala gau ei drysau gan ddod â’r busnes o greu wisgi yng Nghymru i ben am gyfnod hirfaith.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid Ffatri Wisgi Penderyn: “Enw’r gŵr a ddechreuodd y cwmni oedd Alun Evans, ‘odd e’n berchen â tafarn a busnesau eraill yn lleol.
“Fe a dau ffrind arall, oedd yn ffermo yn Cwm Cynon, wrth ishte yn y tafarn un noswaith [dywedodd]: ‘Pam dim ond yr Albanwyr sy’n gallu creu wisgi da, pam bod y Cymry ddim yn gallu ‘neud e?’.”
Bellach mae’r cwmni yn gwerthu tua 700,000 o boteli bob blwyddyn, gyda chwsmeriaid yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Wcráin a gwledydd eraill yn Ewrop.
Dathlu Cymru a'r diwylliant
Mae’r busnes yn gyfle i ddangos yr hyn sydd gan Gymru i gynnig, medd Huw Thomas a ymunodd â’r cwmni yn 2011.
Bob blwyddyn mae potel o wisgi newydd yn cael ei chreu er mwyn anrhydeddu ‘Eicon o Gymru’ – boed hynny’n unigolyn neu elfen sy’n cynrychioli’r diwylliant, fel y gair ‘Hiraeth'.
Ac mae’r gyfres wedi profi’n “boblogaidd iawn” dros y blynyddoedd, meddai Huw Thomas.
Mae rhai poteli o’r gyfres yn cael eu hail werthu am hyd at filoedd o bunnoedd gan bobl ar y we, gyda rhifyn y canwr opera Bryn Terfel ymhlith y mwyaf poblogaidd.
“Mae’n bwysig bod ni’n gweud wrth bobl Cymru, Prydain a’r byd amdano Cymru fach, a gwahanol storis,” medd Mr Thomas.
“Ni wedi sôn am storis fel Dic Penderyn a’r Baner Goch, Dylan Thomas, Gareth Edwards, amdano’r Mabinogi – stori Rhiannon.
“Ni wedi ‘neud un ar gyfer y pêl-droed pan aeth Cymru i Gwpan y Byd, a’r un diweddara’ ‘da ni wedi ‘neud yn dathlu 10 blynedd o gwmni lawr yn Caerdydd, cwmni cynhyrchu teledu sef Bad Wolf.
“Mae ‘di dod yn poblogaidd iawn a mae pobl yn tueddu casglu nhw a gofyn pryd mae’r un nesa’ yn dod mas.”
'Balchder'
Gyda thair ddistyllfa erbyn hyn – gan gynnwys safle gwreiddiol Penderyn, ac eraill yn Abertawe a Llandudno – mae’r cwmni yn cyflogi tua 80 o bobl.
Dywedodd Mr Thomas fod pobl Cwm Cynon yn “falch” o’r cwmni lleol a’r hyn mae’n ei gynrychioli.
“Fi’n siŵr bod y brand yn rhoi balchder i’r ardal, pentre’ Penderyn," meddai. "Mae lot o’r gweithwyr yn dod o bentrefi fel Hirwaun ac Aberdâr."
Mae 14,000 o gasgenni wisgi hefyd yn cael eu cadw mewn warws yn lleol er mwyn iddyn nhw allu aeddfedu am gyfnod o dair blynedd cyn iddyn nhw gael eu gwerthu.
Yn ôl Mr Thomas, mae’r wisgi ei hun hefyd yn destun balchder gan ei fod mor “unigryw".
“Mae’n pair distyllu unigryw iawn, gath ei dylunio yn arbennig i’r busnes," meddai. "Mae’n creu wisgi lot wahanol i Scotch.
“Mae e’n mwy ysgafn, mae e’n os rhywbeth yn rhwyddach i yfed so mae’n rhoi cynnyrch unigryw i ni.”
Er bod y cwmni wedi wynebu rhai heriau ers cyfnod y pandemig, maen nhw'n dal i edrych tuag at y dyfodol.
“Ni wedi tyfu’n gyflym yn y blynydde diwethaf so falle am y blynydde nesa’, jyst sefydlu’r sefyllfa," meddai.
"Mae’r economi wedi bod yn anodd, yn enwedig ers dod mas o Covid.
“Mae lot o stoc o wisgi yn y farced, cystadleuaeth hefyd, so y blynydde nesa’ falle jyst ail-sefydlu a dal wrth gwrs tyfu y gwerthiant.
“Dal i cael mwy o ymwelwyr i dod mewn i’r siop a’r visitor centres, ac wrth gwrs datblygu’r whisgi.
“Na’r canolbwynt wastad yw safon y wisgi.”