‘Blwyddyn brysuraf’ erioed i dîm achub mynydd yn Eryri

Llun: Facebook/OVMRO
Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Mae tîm achub mynydd yn Eryri  wedi dweud eu bod nhw wedi cael ei “blwyddyn brysuraf erioed’ yn barod eleni.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen bod naw o’u gwirfoddolwyr achub wedi cael eu galw i helpu dau gerddwr ar fynydd Tryfan a dyna oedd 200fed galwad y tîm eleni.

Mewn datganiad ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y tîm: "Mae hydref prysur wedi golygu fod y tîm wedi rhagori ar y nifer uchaf o alwadau rydyn ni erioed wedi'u gwneud mewn blwyddyn, mae 9 yn rhagor yr wythnos hon eisoes wedi cynyddu hynny.

"Er y gellid osgoi llawer o alwadau y nifer o alwadau gyda chynllunio gwell, rydym wedi gweld nifer o anafiadau difrifol sydd wedi herio ein technegwyr achub meddygol gyda nifer o gleifion sydd wedi mynd yn sownd yn gorfod cael eu hachub gan ddulliau rhaffau technegol.

"Gyda bron i 6 wythnos o'r flwyddyn ar ôl, mae'n debygol y byddwn ni'n cyrraedd 220-230 o alwadau eleni."

Fe dderbyniodd y tîm 186 o alwadau yn ystod 2025.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.