
‘Angen symud ymlaen’: Pryder am effaith helynt y Fedal Ddrama ar staff yr Eisteddfod
Mae angen symud ymlaen o helynt y Fedal Ddrama meddai cyn-lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n poeni am yr effaith mae’r ffrae yn ei gael ar staff y brifwyl.
Dywedodd Eifion Lloyd Jones, a oedd yn llywydd Llys yr Eisteddfod rhwng 2017 a 2019, nad oes angen galw cyfarfod arbennig i drafod y pwnc gan fod 'na brosesau eisoes yn bodoli i "ddelio â materion cystadleuol fel hyn".
Daw ei sylwadau wedi i gylchgrawn Golwg gyhoeddi llythyr agored ddydd Iau yn galw am gyfarfod arbennig o'r Llys mewn "ymgais i osgoi anghydfod yn y dyfodol".
Cafodd y llythyr agored ei arwyddo gan y cyn Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Prifardd a Phrif Lenor Dylan Iorwerth, sydd wedi cael gwahoddiad i feirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2026.
Cafodd hefyd ei arwyddo gan yr Athro Peredur Lynch, y bardd a'r ysgolhaig sy'n feirniad y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Cafodd y Fedal Ddrama ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd, ond ni chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny.
Roedd sïon bod y gystadleuaeth wedi ei hatal oherwydd bod awdur buddugol, a oedd yn wyn, wedi ysgrifennu drama o safbwynt cymeriad o leiafrif ethnig.
Nid yw'r Eisteddfod wedi cadarnhau'r sïon yma, ac mae rhai'n parhau i fod yn anfodlon gyda'r diffyg esboniad.
‘Cefnogaeth’
Yn ôl Eifion Lloyd Jones, mae angen i'r Eisteddfod Genedlaethol "symud ymlaen".
"Dw i'n gobeithio, er mwyn lles pawb sy'n ymwneud â’r Eisteddfod, y bydd 'na symud ymlaen," meddai.
"Dw i'n bryderus am effaith yr holl helynt ar staff yr Eisteddfod, ar y bobl, ar yr unigolion nad ydw i’n gwbo pwy oedden nhw oedd yn ymwneud â’r hyn sydd wedi digwydd y llynedd.
"Ond dw i hefyd yn bryderus bod yr holl helynt yn niweidiol i Eisteddfod Wrecsam a’r holl weithwyr gwirfoddol sydd yn fano.
"Yr unig beth maen nhw’n ei weld ac yn ei ddarllen am yr Eisteddfod ydi bod 'na anghytuno, bod 'na anfodlonrwydd.
"Cefnogaeth mae’r bobl yma eisiau, dim beirniadaeth."
Er mwyn symud ymlaen, dywedodd bod angen i'r Eisteddfod "gydweithio".
"Dw i'n credu mai cydweithio ar gyfer Eisteddfod eleni ddyle ni fod yn ei wneud rŵan, yn hytrach na rhygnu ymlaen am Eisteddfod y llynedd," meddai.
"Dowch i ni edrych tua’r dyfodol, a chydweithio a chefnogi pawb sydd yn gweithio ac yn ceisio eu gorau glas i roi Eisteddfod dda i ni eto eleni."
Mewn ymateb, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol nad ydyn nhw wedi derbyn y llythyr yn swyddogol felly "nid oes modd i ni ymateb ar hyn o bryd".

'Angen symud ymlaen'
Dywedodd Eifion Lloyd Jones nad oes angen cyfarfod arbennig o'r Llys gan fod 'na broses eisoes mewn lle.
"Tydw i ddim yn gwrthwynebu cyfarfod arbennig o’r Llys, ond tydw i ddim yn meddwl bod angen un," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
"Mae 'na broses eisoes yn bodoli i ddelio â materion cystadleuol fel hyn."
Mae'n cyfeirio at Bwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod sy'n cyflwyno argymhellion ynglŷn â'i chystadlaethau.
"Mae gan bob agwedd gystadleuol o’r Eisteddfod eu cynrychiolwyr a’u paneli, ac mae cynrychiolwyr y paneli hynny ar y pwyllgor diwylliannol," meddai.
"Be sy’n digwydd wedyn ydi bod y Pwyllgor Diwylliannol yn dod ag argymhelliad i Gyngor yr Eisteddfod, ac mae’r Cyngor yn pasio hwnnw ymlaen i’r Bwrdd.
"Dyna drefn naturiol ac arferol pethau, a wela i ddim pam na allen ni ddilyn y drefn arferol ar hyn o bryd."
Ychwanegodd bod 'na gyfle i drafod y Fedal Ddrama yng nghyfarfod blynyddol y Llys yn yr Eisteddfod eleni.
"Mae 'na gyfarfod arferol o’r Llys yn mynd i fod fel sydd bob blwyddyn," meddai.
"Os ydi pobl dal yn anhapus bryd hynny, mae 'na gyfle i ddod ag unrhyw gynnig gerbron y Llys adeg hynny."