Tlysau ‘amhrisiadwy’ wedi eu dwyn o amgueddfa y Louvre
Mae tlysau "amhrisiadwy" wedi eu dwyn o amgueddfa'r Louvre fore Sul, meddai swyddfa mewnol Ffrainc.
Roedd yr amgueddfa ym Mharis ar gau ddydd Sul yn dilyn y lladrad a ddigwyddodd tua 9.30 y bore (8.30 GMT).
Dywedodd y Gweinidog Mewnol Laurent Nunez fod tri neu bedwar lleidr wedi llwyddo i agor dau gas arddangos a'u bod nhw wedi gadael y lleoliad ar feiciau modur.
Roedden nhw wedi cael mynediad o du allan yr adeilad i Oriel Apollo, ar ochr yr amgueddfa sy’n wynebu Afon Seine. Dyma’r ystafell lle mae tlysau brenhinol Ffrainc wedi eu cadw.
Fe wnaethon nhw ddianc â naw darn o emwaith. Mae adroddiadau eu bod nhw wedi gollwng un coron wrth ffoi.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant Rachida Dati fod y lladrad wedi digwydd fore Sul wrth i'r amgueddfa agor.
"Nid oes adroddiad am unrhyw anafiadau,” meddai.
“Rwyf ar y safle gyda staff yr amgueddfa a'r heddlu. Mae ymchwiliadau'n parhau.”
Dywedodd yr amgueddfa, sy'n gartref i weithiau celf byd-enwog gan gynnwys Mona Lisa Leonardo da Vinci, y byddai'n parhau ar gau oherwydd "yr amgylchiadau eithriadol."
Llun gan Reuters.