
Galw ar y Brenin i gymryd teitl tywysog Andrew oddi arno
Mae'r Brenin Charles yn wynebu galwad i gymryd teitl tywysog ei frawd, Andrew, oddi arno wrth i ragor o honiadau niweidiol ddod i'r amlwg.
Yn ôl y Mail on Sunday, gofynnodd Andrew i Heddlu’r Met ymchwilio i Virginia Giuffre, a honnodd iddi gael ei gorfodi i gael rhyw gyda’r tywysog ar dair achlysur.
Nid yw’r Tywysog Andrew wedi ymateb i’r adroddiadau, ond mae wedi gwadu’r holl honiadau yn ei erbyn ers blynyddoedd.
Mae brawd Ms Giuffre, Sky Roberts, wedi canmol y Brenin Charles am sicrhau na fydd Andrew yn defnyddio ei deitlau brenhinol, gan gynnwys Dug Efrog.
Mae teulu Virginia Giuffre bellach yn galw ar y Brenin i fynd “gam ymhellach” drwy ei atal rhag bod yn dywysog.
Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd Andrew ddatganiad yn dweud na fyddai bellach yn defnyddio’r “teitlau na’r anrhydeddau a roddwyd i mi mwyach”, a hynny “gyda chytundeb Ei Fawrhydi”.
Er iddo ildio ei deitlau swyddogol, mae’n parhau i fod yn dywysog, a hynny ers iddo gael ei eni’n fab i’r Frenhines Elizabeth II.
Ond gallai’r Brenin gyflwyno dogfen gyfreithiol benodol a fyddai’n sicrhau na fyddai bellach yn cael ei gydnabod fel tywysog.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn “canmol” y Brenin Charles am “weithredu rhyw faint”, er nad yw hynny “efallai’n ddigon”.
“O ran y Brenin, rwy’n credu y gallai wneud mwy,” meddai. “Mae ganddo’r gallu i gymryd ei deitl o dywysog oddi wrtho, ac rydym yn galw am hynny.
“Pam na allai gymryd un cam ymhellach?”

Dogfennau Epstein
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn awyddus i fwy o’r dogfennau sy’n gysylltiedig â’r pedoffeil Jeffrey Epstein gael eu rhhyddhau yn yr Unol Daleithiau hefyd.
“Byddwn hefyd yn galw ar y Brenin ac ar arweinwyr eraill y byd i roi mwy o bwysau ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ryddhau’r dogfennau,” meddai.
“Rwy’n gwybod efallai fod ei frawd yn gysylltiedig â’r rhain, ac rwy’n deall bod hynny’n benderfyniad mawr, ond dyna yw’r peth cywir i’w wneud.”
Daeth cyhoeddiad Andrew ynglŷn ag ildio ei deitlau swyddogol ar ôl pwysau cynyddol arno, wedi i adroddiadau ddod i'r amlwg am ei berthynas â'r pedoffeil Jeffrey Epstein, a'i berthynas ag ysbïwr Tsieineaidd honedig.
Roedd hynny hefyd ychydig ddyddiau yn unig gyn i hunangofiant Virginia Giuffre, a fu farw ym mis Ebrill, gael ei chyhoeddi.
Yn ôl adroddiadau, roedd y cyn-ddug wedi talu miliynau o bunnoedd i ddod ag achos ymosodiad rhywiol sifil ganddi yn ei erbyn i ben yn 2022.
Roedd hynny er iddo ddweud nad oed erioed wedi cwrdd â hi.
Llun: Kirsty Wigglesworth/PA Wire