
Sir Gâr: Cyn-filwr 92 oed y cyntaf i nofio mewn pwll newydd
Fe gafodd gŵr 92 oed yr “anrhydedd fawr” o fod y person cyntaf i nofio ym mhwll nofio canolfan hamdden newydd yn Sir Gâr.
Cafodd y rhan gyntaf o Ganolfan Pentre Awel, ar gyrion tref Llanelli, ei hagor yr wythnos hon, gyda Chanolfan Hamdden Llanelli yn cau ei drysau am y tro olaf.
Fe wnaeth gwaith i ddatblygu’r prosiect, sydd werth £200 miliwn, ei ddechrau yn 2017 dan arweiniad Cyngor Sir Gâr.
Yn un o ymwelwyr rheolaidd i’r hen ganolfan, roedd Bernard Phillips, 92 oed, o Lanelli.
Yn gynharach yr wythnos hon cafodd ei wahodd i Bentre Awel fel yr aelod cyntaf o'r cyhoedd i nofio yn y cyfleusterau newydd.
“Mae’n anrhydedd fawr,” meddai Bernard.

“Mae gyda fi atgofion melys dros y blynyddoedd yng Nghanolfan Hamdden Llanelli.
“Roedd dysgu pobl i nofio yn dod â shwd foddhad i mi, rwy' bob amser yn dweud wrth bobl am gymryd eu hamser ac ymlacio.
“Bydda i bob amser yn gwerthfawrogi fy atgofion yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, ond rwy'n edrych ymlaen at greu rhai newydd yn Canolfan Pentre Awel”.
Yn 1963 Bernard oedd y cyntaf i gamu i Bwll y Jiwbilî, a hynny ddiwrnod cyn y cyhoedd wedi i ffrind a oedd yn gysylltiedig â'r prosiect ganiatáu i ffrindiau gael 'mynediad cynnar' i'r safle.
Yn ddiweddarach bu'n helpu ei berthynas Mike i wella, ar ôl i Mike gael ei barlysu mewn damwain ar ôl torri ei wddf.
Dywedodd Mike: “Ar ôl fy namwain, cafodd Bernard fi nôl yn y pwll ac yn nofio unwaith eto. 29 mlynedd yn ddiweddarach, nid wyf wedi edrych yn ôl”.
Yn gynharach yn ei fywyd roedd Bernard yn filwr. Rhoddodd ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol cyn gwasanaethu yn Rhyfel Corea, yn ogystal ag amser yn y Llynges Fasnach.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Roedd yn fraint wirioneddol cael croesawu Bernard, ei ffrindiau a'i deulu fel yr aelod cyntaf o'r cyhoedd i nofio yn y cyfleusterau newydd yn Canolfan Pentre Awel.”
Lluniau: Cyngor Sir Gâr