Caerdydd: Pryder am seiclwr ar ôl i ddynion arfog gael eu gweld mewn stryd
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl adroddiadau am ddynion arfog mewn stryd yn nwyrain Caerdydd ddydd Sadwrn.
Roedd llygad dystion wedi gweld grŵp o dri o ddynion yn cario arfau yn mynd i gyfeiriad seiclwr gwrywaidd ar gyffordd Ffordd Aberdaron a Ffordd Trowbridge tua 17.00.
Yna fe wnaethon nhw adael yr ardal mewn fan wen.
Nid yw hunaniaeth y dynion arfog na’r seiclwr yn hysbys ar hyn o bryd ac mae swyddogion yn apelio am wybodaeth.
“Rydym yn arbennig o awyddus i wirio lles y dyn ar y beic ac yn ei annog ef neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.
Dywedodd llygaid dystion ei fod yn ddyn gwyn, o uchder cyffredin, gyda chorff tenau, ac roedd yn gwisgo tracsiwt lwyd.
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod 2500333667.