Arestio dyn ifanc ar ôl i fenyw 75 oed farw mewn tân
Mae dyn ifanc wedi ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd ar ôl i fenyw 75 oed farw mewn tân yng Nghwmbran.
Bu farw y fenyw yn y tân ar Ffordd Henllys y dref nos Sadwrn, ac fe gafodd unigolyn 17 oed ei arestio meddai'r heddlu.
Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu Gwent, Laura Bartley: "Gallwn gadarnhau bod menyw 75 oed wedi marw yn y fan a'r lle.
"Mae ei theulu wedi cael gwybod a byddant yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
"Rydym yn deall y gall adroddiadau o'r math hwn beri pryder, ond nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
“Efallai y bydd trigolion yn gweld nifer cynyddol o swyddogion yn yr ardal tra bod ymholiadau'n cael eu cynnal.
"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Fe gawson ni ein galw i adroddiad am dân mewn cyfeiriad yn Henllys Way, St Dials, Cwmbrân, tua 8.40pm nos Sadwrn 18 Hydref.
“Fe aeth swyddogion ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r fan a’r lle.
“Cafodd bachgen 17 oed ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd ac mae’n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.”