'Dydw i ddim ar ben fy hun': Dyn o Bwllheli yn dogfennu ei brofiad fel person trawsryweddol

'Dydw i ddim ar ben fy hun': Dyn o Bwllheli yn dogfennu ei brofiad fel person trawsryweddol

"Os dwi’n gallu usio siwrna fi i helpu ‘mond un person, then dwi’n hapus."

Dyna eiriau Ethan Mei Hughes o Bwllheli, sydd yn dogfennu ei brofiad fel person trawsryweddol ar blatfform TikTok. 

"Ddois i allan yn 2022, oedd o'n wbath dwi 'di stryglo efo erioed a do'n i ddim rili yn gw'bod be o'dd o tan lockdown pan nes i dreulio lot o amsar efo fy hun a lot o amser yn pen fi," meddai Ethan wrth Newyddion S4C.

"Dros yr amsar yna wedyn nes i yn slo bach agor fyny i teulu a ffrindia agos fi a nath hynna helpu fi lot...a wedyn nes i siarad i doctor, ag esbonio be oedd yn mynd ymlaen yn pen fi, a sut o’n i’n teimlo.

Ychwanegodd: "Nes i jyst deud y geiria ‘Yli dwi yn y corff wrong’ ‘Dwi ddim yn teimlo yn gyfforddus yn croen fi’ a wedyn nes i neud y penderfyniad dwi isio bod yn Ethan, a’r peth gora’ dwi ‘rioed ’di neud.

"Ma’ ‘di bod yn siwrna anodd, ond y siwrna mwya rewarding."

‘Dydw i ddim ar ben fy hun'

Mae Ethan wedi bod yn dogfennu ei brofiad ar blatfform TikTok ers ychydig o fisoedd, ac er ei fod yn anodd ar adegau, mae wedi bod yn gymorth mawr iddo.

"Dwi ‘di cychwyn testosterone fi ag yn amlwg, mae o’n newid petha’, so ma’n newid llais fi, corff fi, so dwi’n postio fideo jyst i ypdetio pobl bob mis o sut ma ‘di newid llais fi," meddai.

"I allu rhannu wbath ar blatfform fatha TikTok, mae o’n neud fi deimlo reit vulnerable, mae o, achos mae o jyst yna wan, ond ma’r ymateb wedi bod yn amazing.

"Jyst i rhannu stori fi, rili, a jyst i helpu pobl eraill, ond hefyd i ffeindio pobl eraill, a dwi wedi, a mae o’n rili cŵl achos mae o wedi neud i fi deimlo ‘dydw i ddim ar ben fy hun’.

Dywedodd Ethan fod yr ymateb i'w fideos wedi bod yn anhygoel.

"Ma'r ymateb wedi bod yn nuts, ma' faint o bobl sydd yn sbio ar fideos fi, commentio a deud petha mor ffeind..ma' jyst yn rili cŵl a ma'n helpu remindio fi pam dwi'n neud o," meddai.

"Ma 'na betha negyddol, ma'n anodd weithia ond ma' 'na lot mwy o positives na negatives a hynna dwi'n trio focusio ar."

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn wasanaeth wedi ei gomisiynu gan y GIG yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru ac yn 18 oed neu yn hŷn.  

Dywedodd Dr Sophie Quinney, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Rhywedd Cymru wrth Newyddion S4C: "Y llwybr arferol ydy y bydd claf yn mynd i weld eu Meddyg Teulu, gwneud cais am atgyfeiriad i'n gwasanaeth.

"Fe fyddwn ni'n derbyn yr atgyfeiriad, sgrinio'r atgyfeiriad ac os ydy hi'n addas, fe fyddwn ni'n rhoi'r claf ar ein rhestr aros."

'Sylfaenol a hollbwysig'

Mae mynediad amserol at gymorth proffesiynol yn hollbwysig yn ôl Dr Quinney. 

"Mae hi mor mor bwysig fod unrhyw un ar unrhyw adeg o'u bywyd sydd yn wynebu trafferthion yn ymwneud â'u hunaniaeth rhywedd yn derbyn mynediad amserol i gefnogaeth ac asesiad proffesiynol...beth sy'n sylfaenol ac yn hollbwysig yw bod pobl ifanc yn cael eu gweld mewn modd amserol, a bod y broses asesu honno'n dechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

"Beth bynnag ydy'r canlyniad ar ddiwedd y broses asesiad, y pwysigrwydd sylfaenol ydy fod pobl yn cael eu gweld yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, oherwydd rydym yn gwybod mai oedi wrth gael mynediad at gefnogaeth ac asesiad proffesiynol priodol ydy lle mae rhywfaint o'r difrod hwnnw i iechyd meddwl a lles person yn cael ei wneud."

'Gwahaniaeth sylweddol'

Mae Ethan yn annog eraill i barchu ei ragenwau, gan ei fod wedi cael profiad personol lle nad yw hynny wedi digwydd iddo.

"Yr unig her rili sy’n dod at fi ydi dwi’n meddwl weithia efo pobl hŷn, ddim yn iwsio pronouns fi’n iawn, kind of ar bwrpas, a dwi’n hollol dalld o ochr nhw ‘chos ma’ nhw‘n credu be’ ma’ nhw’n credu, a ma’ hynna’n hollol ok," meddai.

"Ond ar yr un adeg, ma’n rili pwysig i jyst parchu pobl a pronouns nhw, a dwi’m yn gofyn i chdi licio fi, jyst parcha pronouns fi a that’s cool."

Ychwanegodd Dr Quinney: "Byddwn i'n gofyn i chi sut y byddech chi'n teimlo o ran parchu eich rhagenwau chi? Os ydych chi'n disgwyl hawliau dynol sylfaenol, urddas, diogelwch, dwi'n siwr y byddech chi eisiau hynny i eraill.

"Rydych chi'n disgwyl i mi ddefnyddio eich enw a'ch rhagenwau, a dwi'n siwr y byddech chi'n ei chael hi'n yr un mor anodd pe na bai hynny'n wir...felly dydy hi ddim mor annisgwyl â hynny i ystyried nad yw pobl trawsryweddol yn mwynhau'r profiad yna chwaith.

"Y peth arall fydden i'n ddweud ydy nad ydy hi'n cymryd gormod o egni i ddefnyddio rhagenw cywir person, ac mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad y person yr ydych chi'n siarad gyda nhw."

Mae rôl y gymuned ehangach yn hollbwysig wrth gefnogi pobl trawsryweddol yn ôl Dr Quinney. 

"Yr amgylchedd cymdeithasol ydy'r un sydd yn amgylchynu pob un ohonom ac yn siapio sut ydym ni'n teimlo bob dydd. Wrth gwrs, mae gan Wasanaeth Rhywedd Cymru rôl bwysig...ond fyddwn i'n dadlau mai beth sydd fwyaf pwysig ydy'r hyn sy'n mynd ymlaen i'r person yna yn eu cymunedau," meddai. 

"Mae gennym ni rôl, ond y profiadau o ddydd i ddydd sydd efallai yn gwneud y mwyaf o wahaniaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.