
Ynys Môn: Arbed cwch rhag gwrthdaro â chlogwyni Trwyn y Balog
Cafodd criw cwch oedd mewn peryg o wrthdaro â chlogwyni ar Ynys Môn eu hachub ddydd Sadwrn ar ôl i’r injan fethu tra’r oeddent ar y môr.
Fe wnaeth y criw ar yr iot 30 troedfedd o hyd alw am gymorth ar unwaith ar ôl sylweddoli nad oedden nhw’n gallu defnyddio’r hwyl chwaith.
Roedd perygl y byddai’r cwch yn taro clogwyni Trwyn y Balog.
Cymerodd gwylwyr y glannau a thimau bad achub o Gaergybi, Moelfre ac Amlwch ran yn yr ymdrech i atal y cwch rhag taro’r clogwyni.

Fe wnaethon nhw gael gwybod am yr argyfwng am 12.45 brynhawn ddydd Sadwrn.
Fe gafodd y cwch ei dynnu i le diogel gan wirfoddolwyr RLNI Moelfre i borthladd Amlwch, gan mai dyna oedd y porthladd agosaf a “mwyaf diogel” ar y pryd.

Dywedodd Vince Jones o RLNI Moelfre: “Rydym yn ddiolchgar i’r llong leol a’u criw am aros gerllaw er mwyn sicrhau eu diogelwch nes i ni gyrraedd y safle.
“Fe wnaeth ein criw gwirfoddol, gyda’u sgiliau eithriadol a’u hymroddiad, waith gwych wrth eu hachub yn gyflym ac effeithiol.”
Dywedodd ei fod yn dymuno “taith ddiogel” i griw’r llong a gafodd eu hachub pan fydd yr injan wedi’i thrwsio.