Galw am ail-adeiladu ysgol ar ôl gorfod addysgu plant mewn cabanau

ITV Cymru
Bethan Thomas

Mae rhieni yn anhapus nad yw ysgol ddim agosach at gael ei hailadeiladu flynyddoedd ar ôl cau o ganlyniad i bryderon am dirlithriad.

Caewyd ysgol gynradd Godre’r Graig ger Ystalyfera yn 2019, gyda’r disgyblion yn cael eu symud i gabanau symudol ger Ysgol Gymunedol Cwm Tawe.

Am chwe blynedd bellach, mae plant wedi cael eu haddysgu yn y cabanau dros dro dair milltir i ffwrdd.

Dywedodd un rhiant, Bethan Thomas (uchod) ei fod wedi bod yn “amser rhy hir”.

“Cyn bo hir fe fydd yna genhedlaeth gyfan o blant o’r pentref sydd erioed wedi cael eu haddysgu yn y pentref,” meddai.

Dywedodd rhiant arall, Rhys Williams, nad oedd cael eu haddysg mewn cabanau “yn ddelfrydol o gwbl”.

“Mae’r rhieni a’r athrawon wedi bod yn wych ac yn gefnogol iawn. Ond mae’r amgylchedd yn wahanol iawn.”

Image
Y cabanau
Y cabanau

Fe gafodd yr ysgol ei dymchwel y llynedd ond er bod amryw o gynlluniau i greu ysgol yn ei lle wedi cael eu trafod does dim wedi eu rhoi ar waith eto.

Mae Aelod o'r Senedd, Sioned Williams o Blaid Cymru, wedi galw ar y Prif Weinidog i ddarparu'r arian nawr i ailadeiladu'r ysgol wreiddiol.

“Rydw i wedi cael ymateb gwell gan ysgrifennydd y cabinet addysg,” meddai.

“Mae hi wedi ymrwymo i ddod i ymweld â'r ysgol, oherwydd yr hyn rydw i'n ceisio'i bwysleisio yw bod hwn yn achos eithriadol iawn.

“Nid ysgol sydd angen ei huwchraddio yn unig yw hon. Nid ysgol sydd angen adeilad newydd, wedi'i foderneiddio yn unig yw hon. 

“Mae angen ysgol newydd ar ôl i’r un flaenorol gael ei cholli heb fod unrhyw fai ar yr ysgol.”

Image
Ysgol Gynradd Godre'rgraig
Ysgol Gynradd Godre'r Graig cyn ei chwalu

Mae David Chadwick, Aelod Seneddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Frycheiniog, Maesyfed, a Chwm Tawe, bellach wedi galw am ymchwiliad i gau a dymchwel yr ysgol.

Mae hefyd wedi ysgrifennu at ysgrifennydd addysg Cymru, Lynne Neagle, i amlinellu ei bryderon bod y problemau’n dal heb eu datrys.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n trafod â Chyngor Castell-nedd Port Talbot i drafod y cynlluniau ar gyfer yr ysgol yn y dyfodol. 

“Rydym yn deall ei fod wedi bod yn gyfnod heriol iawn i gymuned yr ysgol,” medden nhw.

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau lles a pharhad addysg ein holl ddysgwyr.

“Rydym yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i sicrhau bod anghenion a lles dysgwyr yn cael eu cefnogi’n llawn.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn parhau i chwilio am yr ateb gorau i ddisgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig.

“Mae cynrychiolwyr adran addysg y cyngor wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ac mae’r broses honno’n parhau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.