Israel yn ymosod ar Gaza o’r awyr gan gyhuddo Hamas o ‘dorri amodau’r cadoediad’

Rafah

Mae Lluoedd Amddiffyn Israel yn dweud eu bod nhw wedi cynnal ymosodiadau awyr ar ddinas Rafah yn ne Gaza.

Daw hynny medden nhw ar ôl ymosodiad gan Hamas ar eu milwyr yn Gaza. Mae lluoedd Israel (yr IDF) wedi cyhuddo Hamas o "dorri amodau’r cadoediad” mewn modd “beiddgar”.

Dywedodd yr IDF fod eu milwyr yn chwalu "seilwaith terfysgol" yn ardal Rafah, yn unol â'r cytundeb cadoediad, pan saethodd aelodau o Hamas tuag atyn nhw.

Mewn ymateb, mae Hamas yn dweud nad ydyn nhw'n "ymwybodol" o unrhyw wrthdaro yn Rafah ond maent hefyd yn honni bod Israel yn "parhau i dorri'r cytundeb".

Dywedodd gweinyddiaeth Iechyd Hamas bod wyth o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza yn ystod y 24 awr ddiwethaf o ganlyniad uniongyrchol i ymosodiadau gan Israel.

Roedd y cytundeb a wnaed yn gynharach y mis hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r IDF adael rhannau o Gaza, ond mae'n caniatáu i fyddin Israel aros mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys Rafah.

Daw'r cytundeb wedi rhyfel yn Gaza a ddechreuodd yn sgil ymosodiad Hamas yn ne Israel yn 2023. 

Ers hynny mae mwy na 67,000 o Balesteiniad wedi eu lladd gan luoedd Israel, gan gynnwys mwy na 18,000 o blant, yn ôl y weinyddiaeth iechyd sydd yn cael ei rhedeg gan Hamas.

Llun: Dinistr yn ninas Rafah. Llun gan UNRWA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.