
Y Fedal Ddrama: Cyn Archdderwydd yn galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod
Y Fedal Ddrama: Cyn Archdderwydd yn galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod
Mae cyn Archdderwydd, un o feirniaid y Gadair eleni, a chyn enillydd prif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol wedi galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod i drafod atal y Fedal Ddrama y llynedd.
Maen nhw wedi cyhoeddi llythyr yn galw am gyfarfod o'r Llys gyda'r nod o sicrhau na fydd swyddogion a phenaethiaid yr Eisteddfod yn gallu dadwneud penderfyniadau beirniaid os nad ydi amodau cystadleuaeth wedi eu torri.
Fe gafodd cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ei hatal ym mis Awst y llynedd ond nid yw'r Eisteddfod Genedlaethol wedi esbonio'r rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad.
Roedd sïon, sydd heb eu cadarnhau gan yr Eisteddfod, bod y gystadleuaeth wedi ei hatal oherwydd bod awdur buddugol, a oedd yn wyn, wedi ysgrifennu drama o safbwynt cymeriad o leiafrif ethnig.
Ddydd Mercher fe wnaeth y brifwyl gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno “gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid” ar ôl "adolygu a diweddaru’r canllawiau i feirniaid".
Pwysleisiodd y brifwyl “mai’r beirniaid yn unig fydd yn penderfynu ar deilyngdod mewn unrhyw gystadleuaeth ai peidio".
Daeth hynny ddiwrnod cyn i'r llythyr yn galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod i drafod y mater gael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Golwg, ddydd Iau.
Mae wedi ei arwyddo gan y cyn Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Prifardd a Phrif Lenor Dylan Iorwerth, sydd wedi cael gwahoddiad i feirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol 2026.
Mae'r llythyr agored hefyd wedi ei arwyddo gan yr Athro Peredur Lynch, y bardd a'r ysgolhaig sy'n feirniad y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Mae’r llythyr yn dweud: “Ein cred ni ydi fod angen Cyfarfod Arbennig o Lys yr Eisteddfod er mwyn i’r aelodau gael penderfynu ar reolau syml a fydd yn rhoi hyder i feirniaid a chystadleuwyr ac yn sicrhau na fydd raid i swyddogion a phenaethiaid yr Eisteddfod wynebu penderfyniadau anodd fel hyn yn y dyfodol.
“Yn ein barn ni, byddai’n ddigon cael rheol syml yn mynegi fod dyfarniad beirniaid yn derfynol (heblaw mewn achos o dorri amod cystadleuaeth neu dwyll) ac nad oes hawl ymyrryd yn y penderfyniad hwnnw.
“Yn fwy na dim,” meddai’r tri, “byddai’n golygu bod eisteddfodau 2025 a 2026 heb gysgod trostyn nhw. Mae’r pwyslais yn llwyr ar y dyfodol a dod o hyd i ateb i’r anniddigrwydd a’r ansicrwydd sydd wedi codi yn sgil yr helynt y llynedd.”
Roedd Myrddin ap Dafydd yn Archdderwydd ar Orsedd Cymru rhwng 2019 a 2024 ac mae Dylan Iorwerth, sylfaenydd cylchgrawn Golwg, yn gyn enillydd y Goron, y Gadair a’r Fedal Ryddiaith.
Roedd Peredur Lynch yn Athro yn y Gymraeg a bu'n bennaeth yr adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn ymddeol.
Mae'r llythyr yn gofyn am gefnogaeth o leia’ 50 o aelodau’r Llys i alw’r cyfarfod. Mae’r syniad eisoes wedi cael "derbyniad gwresog" gan ddau ddwsin o gystadleuwyr cyson, beirniaid, a chyn-swyddogion yr Eisteddfod, meddai'r awduron.

‘Pwysig'
Wrth ymateb dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol wrth Newyddion S4C: “Gan nad yw’r Eisteddfod wedi derbyn y llythyr yn swyddogol, nid oes modd i ni ymateb ar hyn o bryd.”
Dros y misoedd diwethaf mae panelau testunau’r Eisteddfod a Phwyllgor Diwylliannol y Brifwyl wedi bod yn adolygu a diweddaru’r canllawiau i feirniaid yr ŵyl o 2025 ymlaen, medden nhw.
"Mae’r canllawiau newydd yn fyw ac yn weithredol erbyn hyn," meddai'r Eisteddfod.
“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses i ddiweddaru’r canllawiau dros y misoedd diwethaf.
“Rydym wedi gwerthfawrogi’r cyfle i graffu arnynt gyda’r arbenigwyr ar ein pwyllgorau a’n panelau.
"Bu'n ymarferiad pwysig a defnyddiol, er mwyn sicrhau bod ein holl ganllawiau beirniaid yn addas ar gyfer Cymru heddiw.
"Bu’n gyfle i ni atgyfnerthu’r neges mai’r beirniaid yn unig fydd yn penderfynu ar deilyngdod mewn unrhyw gystadleuaeth ai peidio.
“Yn sgil y broses rydym hefyd am gyflwyno gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sydd angen cyngor pellach ar ddarn o waith sy’n debygol o ddod i’r brig mewn unrhyw gystadleuaeth.”